Mae Gwersylloedd y Mudiad yn cynnig pob math o bethau: cyfeillion gwych, gweithgareddau gwahanol, astudiaethau a sgyrsiau bywiog am y Beibl. Os ydych wedi bod sawl gwaith, neu’n meddwl dod am y tro cyntaf, cewch groeso cynnes ar Wersyll MEC.
Mae neges y Beibl yn ganolog i holl wersylloedd MEC. Mae gan bob gwersyll Gaplan a fydd yn trafod thema o’r Beibl gyda’r gwersyllwyr bob dydd, sy’n addas i oedran y gwersyll, boed y gwersyllwyr yn mynychu eglwys neu beidio.
Caiff pob gwersyllwr ei roi mewn ystafell wely gyda thri neu bedwar o wersyllwyr eraill, gyda swyddog ymroddgar yn gofalu amdanynt trwy arwain astudiaethau Beiblaidd, bod ar gael trwy gydol yr wythnos a sicrhau bod pawb yn y grwˆp yn elwa o holl weithgareddau’r gwersyll. Mae staff y gwersylloedd i gyd yn wirfoddolwyr Cristnogol wedi ei cyrchu o eglwysi efengylaidd. Ar gyfartaledd, bydd 1 swyddog i bob 3 gwersyllwr. Mae’n ofynnol i’r arweinwyr a’r swyddogion cyflwyno geirda gan eu heglwys a chwblhau gwiriad Swyddfa Cofnodion Troseddol.
Mae cydweithio’n rhan hanfodol o wersyll, yn y gêmau a’r tasgau ysgafn a roddir i’r timau. Mae’n gyfle da i wneud ffrindiau ac adnewyddu cyfeillgarwch.
Cyfyngir niferoedd y gwersylloedd yn fwriadol (tua 35-50 mewn gwersyll) i sicrhau bod pawb yn dod i nabod ei gilydd, hyd yn oed y gwersyllwyr swil. Yn aml caiff y gwersyllwyr gymaint o anogaeth gan ffrindiau newydd ag a dderbyniant gan y caplan a’r swyddogion.
Mae gan bob gwersyll ddewis eang o weithgareddau, gyda rhywbeth i blesio pawb, hyd yn oed y gwersyllwr mwyaf di-ddiddordeb! Chwaraeon, celf a chrefft, cystadlaethau, canwio, teithiau i’r traeth, tennis-bwrdd, nofio: dyma rai o’r gweithgareddau posibl. (Mae darparwyr gweithgareddau trwyddedig yn cael ei defnyddio ar gyfer pob gweithgaredd awyr agored.) Mae’r nosweithiau yn gyfle i fwynhau adloniant.
Mae hyn oll yn gwneud gwersylloedd MEC yn rhywbeth arbennig iawn i bawb. Dyna pam mae cymaint o wersyllwyr yn dod nôl bob blwyddyn, a’r gwersylloedd yn llenwi mor gyflym.
Gwersylloedd Cymraeg, 2008
Awst 9 - 16, 2008
Quinta, oed 10 - 13
Arweinydd - Huw Pritchard
Caplan - Parch. Meirion Thomas
Arweinydd y Merched - Bethan Davies
Bryn-y-Groes, Oed 14 - 17
Arweinydd - Dafydd Cunningham
Caplan - Parch. Mark Thomas
Arweinyddes y Merched - Heledd Job
I lawr lwytho taflen archebu cliciwch ar y ddolen isod, neu ar y llun o’r daflen uchod: