Daw cannoedd o blant i wersylloedd MEC bob blwyddyn, ac maent yn elwa o gyfuniad arbennig o hwyl a gweithgareddau, gwersi o’r Beibl, a chwmni ffrindiau o bob rhan o Gymru. Cynhelir dau wersyll Cymraeg yn ystod ail wythnos mis Awst: gwersyll i blant 10-13 oed yng Nghanolfan Gristnogol Llanmadoc, a gwersyll i blant 14-18 oed ym Mryn-y-groes, y Bala. Bydd cyfle hefyd i gael aduniad ac encil yn ystod y flwyddyn. Mae nifer o bobl ifanc wedi proffesu ffydd neu ail gysegru eu bywydau i Grist yn ystod y gwersylloedd ar hyd y blynyddoedd.
Am y wybodaeth ddiweddaraf, cliciwch ar y dolenni isod:
- Gwersylloedd yr Haf – 11 i 18 Awst, 2012 (10 i 13 oed a 14 i 18 oed)
- Encil yr Ifanc – 15 i 17 Chwefror, 2012 (10 i 17 oed)
- Aduniad y Gwersylloedd – 19 Tachwedd, 2011
- Diwrnod Hyfforddi Swyddogion 2011 - 24 Mawrth, 2012