Y Ffordd Gadarn

Y Ffordd Gadarn

Y Ffordd Gadarn: Ysgrifau ar Lên a Chrefydd gan R. Geraint Gruffydd

Detholwyd a golygwyd gan E. Wyn James

£14.95

ISBN: 978 185049 230 6

Yn y gyfrol hon cawn ddetholiad helaeth o ysgrifau poblogaidd yr Athro R. Geraint Gruffydd, un o ffigyrau amlycaf bywyd diwylliannol Cymru heddiw. Mae’n cwmpasu ei ysgolheictod disglair ym maes llenyddiaeth Cymru ynghyd â’i argyhoeddiad Cristnogol dwfn. Ceir yma hefyd adran o atgofion a theyrngedau i gydweithwyr a chyfeillion agos, sydd nid yn unig yn rhoi blas ar ei fagwraeth yn Ardudwy a Cheredigion, ond sydd hefyd yn rhoi golwg ar ddigwyddiadau a datblygiadau o bwys ym mywyd diwylliannol a chrefyddol Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Yn ei bortread o’r Athro Gruffydd yn y gyfrol hon, cyfeiria’r Athro Bobi Jones at ‘ei allu diamheuol i gyfathrebu’n ddifyr ac eto’n sylweddol ar yr un pryd’. Ceir prawf eglur o hynny yn ysgrifau Y Ffordd Gadarn.

Lansiad ‘Y Ffordd Gadarn: Ysgrifau ar Lên a Chrefydd gan R. Geraint Gruffydd.
Canolfan Morlan, Morfa Mawr, Aberystwyth, dydd Sadwrn 13 Rhagfyr 2008, 2.30pm
Bydd cyfle i gael blas ar gynnwys y llyfr, a bydd copiau ar werth am £14.95.
Croeso cynnes i bawb