Bu’r gair ysgrifenedig yn rhan bwysig o waith y Mudiad Efengylaidd o’r cychwyn ac mae Gwasg Bryntirion, adain gyhoeddi MEC, yn cyhoeddi llyfrau Cymraeg a Saesneg ynghyd â thri chylchgrawn: Y Cylchgrawn Efengylaidd, The Evangelical Magazine, a Llwybrau.
Yn ystod 2008-9 cyhoeddwyd tair cyfrol Gymraeg: Darganfod Cristnogaeth: Llawlyfr Astudio (cyfieithiad gan Erin Myrddin), Y Ffordd Gadarn: Ysgrifau ar Lên a Chrefydd gan R. Geraint Gruffydd (golygwyd gan E. Wyn James) a Croes fy Arglwydd gan Gwynn Williams. Gellir edrych ar fanylion llawn ein cyfrolau a’u harchebu ar www.gwales.com
Caiff ein llyfrau Saesneg eu dosbarthu gan Evangelical Press, Darlington, a cheir manylion llawn ein llyfrau ar eu gwefan: www.epbooks.org
