Rydym wrthi'n datblygu'r wefan ar hyn o bryd.
Cysylltwch â ni os ydych angen gwybodaeth bellach.

gwas da

gwybodaeth

Cynhadledd i ddynion yw ‘Gwas da i Grist’, gyda’r pwyslais ar arweinyddiaeth eglwys.

Y bwriad yw rhoi cymorth i ddynion sy’n ymgymryd â gwaith o fewn eu heglwysi.

Cafwyd cynhadledd fendithiol y llynedd, a gweddïwn am yr un fendith eleni. Croeso cynnes i chi ymuno â ni.

Bydd anerchiadau ar epistol Paul at Titus; seminarau ar fywyd y Cristion, ac arweiniad ar sut i ddysgu Gair Duw mewn amrywiol sefyllfaoedd.

Os bydd y tywydd yn caniatau, bydd cyfle hefyd i gael barbeciw ar y traeth.

Rhaglen y Gynhadledd:

Nos Wener

7.30 - Cyrraedd a Choffi
8.00 - Dysgu’r Gair - Egwyddorion Esboniadol - Stuart Olyott
9.00 - Dewis o drafodaethau:
(a) Pregethu - Stuart Olyott
(b) Gwaith Plant ac Ieuenctid - Meirion Morris
(c) Arwain Astudiaeth - Derrick Adams

Dydd Sadwrn

10.00 - Cyrraedd
10.30 - Her Paul i Titus 1 - Gwynn Williams
11.30 - Dewis o seminarau:
(a) Y Dyn Teulu - Meirion Morris
(b) Uchelgais a Gyrfa - Steffan Jones
12.30 - Cinio
1.45 - Her Paul i Titus 2 - Gwynn Williams
3.00 - Trafodaeth gyffredinol
4.15 - Cyfnod o Weddi dros Gymru
5.30 - Barbeciw ar y Traeth, os yw’r tywydd yn caniatau!

** Bydd cyfle am baned a sgwrs rhwng y sesiynau.
Yn ogystal â’r gweithgareddau, bydd pob un sy’n mynychu yn derbyn pecyn o adnoddau, cinio, swper a lluniaeth yn ystod y dydd.

Y Gôst:

Yn anffodus mae nifer o gostau’n gysylltiedig â rhedeg cynhadledd o’r fath yma. Mae’r costau wedi eu cadw mor isel â phosibl:

Tâl llawn - £22
Dydd Sadwrn yn unig - £20
Nos Wener yn unig - £5

Ble mae’r Neuadd?

Mae Neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth ar draws y lon i’r orsaf trenau yng nghanol Aberystywth. Mae nifer o feysydd parcio yn agos i’r orsaf.

Cliciwch yma i lawrlwytho’r daflen archebu i gwas_da_i_grist