Mae llawer o waith yn mynd ymlaen i geisio rhannu’r Efengyl mewn ysgolion cynradd ac uwchradd dros Gymru.
˜Trobwynt’ – Ardal Llyn ac Eifionydd, Gwynedd.
Mae Rachel Millner yn gweithio gyda ‘Trobwynt’, sy’n yn cynrychioli rhai o Eglwysi LlÅ·n ac Eifionydd drwy geisio rhannu’r Efengyl â phlant a phobl ifanc yr ardal. Fe’i cefnogir yn ariannol a thrwy weddi gan Eglwysi lleol a thu hwnt, ac mae’n cydweithio’n agos ag Undeb y Gair.
Sut mae’n gweithio?
Mae tair prif ran i’r gwaith:Â
- Yn yr Eglwysi: Hyrwyddo, hyfforddi a chefnogi cynlluniau ieuenctid.
- Yn yr Ysgolion: Cyfrannu at ddatblygiad addysgol, moesol ac ysbrydol y bobl ifanc drwy weithio mewn partneriaeth ag athrawon a gweithwyr ysgolion eraill. Mae hyn y cynnwys gwasanaethau, cyflwyniadau amrywiol (yn enwedig ar achlysuron arbennig o’r flwyddyn fel y Nadolig a’r Pasg), a siarad mewn Undebau Cristnogol.
- Yn y Gymuned: Hyrwyddo Cristnogaeth ymhlith ieuenctid gan gydweithio gyda ymgyrchoedd glan môr a drefnir gan Undeb y Gair, a mynd o amgylch pentrefi a threfi’r ardal gyda bws dau lawr sy’n cael ei ddefnyddio fel math o ‘glwb ieuenctid’ symudol.
Os hoffech ragor o wybodaeth ynglÅ·n â ‘Trobwynt’ neu os yn dymuno cefnogi’r gwaith, cysylltwch â Rachel ar: 01766 810 809.
Menter Ysgolion Cymraeg
Dechreuodd Menter Ysgolion Cymraeg yn Haf 2004, pan benodwyd Gwen Emyr yn weithiwr Cristnogol yn ysgolion Cymraeg Caerdydd a’r Cymoedd.Â
Gwaith Gwen yw ymweld ag ysgolion i arwain gwasanaethau, gwersi a grwpiau Cristnogol. Yn ogystal mae hi’n cynnal cyswllt rhwng yr ysgolion a’r eglwysi lleol ac yn annog gwirfoddolwyr i gynorthwyo yn y gwaith. Agwedd arall ar y gwaith yw darparu adnoddau Cristnogol addas yn y Gymraeg.
Mae pwyllgor yn cynrychioli’r eglwysi sy’n cefnogi Menter Ysgolion Cymraeg, ac yn cyfarfod o leiaf unwaith bob tymor i drafod datblygiad y gwaith ac i weddïo. Bellach mae Bethan Jenkins yn cynorthwyo am ddeuddydd bob wythnos yn ysgolion ardal Merthyr, Aberdâr a Chaerffili, ac yn ddiweddar daeth Carwyn Arthur i gynorthwyo gyda chwrs y Beibl Chwilotwr yn ardal Treorci a’r cyffiniau.
Gwerthfawrogir eich gweddïau dros y gwaith.
Newyddion diweddaraf y Fenter:
Diolch am eich gwedd?au dros waith y Fenter yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Bellach mae Adam Colman, sy’n aelod yn Eglwys Highfields, ac yn gweithio yn Techniquest, wedi ymuno â’r gwaith am ddiwrnod bob wythnos. Golyga hyn ein bod yn cynnal sesiynau hyfforddiant bob pythefnos am rai wythnosau y tymor hwn, ac rydym yn ddiolchgar i Pete Hodge am arwain y sesiynau hyn. Byddaf innau yn cynorthwyo gyda’r iaith gan addasu i’r Gymraeg yr hyn sydd ar gael yn Saesneg, i’r rhai sy’n awyddus i weithio yn yr ysgolion Cymraeg.
Parhawn i wedd?o am rai ardaloedd sydd heb weithiwr yn yr ysgolion Cymraeg, gan ymddiried y bydd Duw yn arwain y gweithiwr iawn i ymgymryd â’r angen mewn ardaloedd megis Casnewydd, Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr.
Amserlen y tymor hwn
8 Ebrill: Ail sesiwn hyfforddiant yn Eglwys Fedyddiedig Rhiwbina gyda Pete Hodge
9 Ebrill: Cyfarfod yr OAC sef yr Ymgyrchwyr Awyr Agored yn nh? Dick Jenkins
10 Ebrill: Paratoi adnoddau ar gyfer cyflwyniad y tymor hwn
14 Ebrill: Pwyllgor Menter Ysgolion Cymraeg am 7.45 pm
15 Ebrill: Ysgol Pwll Coch – gwasanaeth ysgol iau
22 Ebrill: Trydydd sesiwn o hyfforddi darpar weithwyr gyda Pete Hodge
24 Ebrill: Ysgol y Mynydd Bychan – gwasanaethau x 2
25 Ebrill: Ysgol Glan Morfa – gwasanaeth blwyddyn 2
28 Ebrill: Ysgol Llantrisant – gwasanaeth ysgol a gwers gyda blwyddyn 6
30 Ebrill: Ysgol Coed-y-Gof – gwasanaeth babanod
1 Mai: Ysgol Coed-y-Gof – gwasanaeth ysgol iau
2 Mai: Ysgol Creigiau – gwasanaeth ysgol yng nghwmni Pete Hodge
6 Mai: Pedwerydd sesiwn o hyfforddi darpar weithwyr
7 Mai: Ysgol Pwll Coch – gwasanaeth babanod
8 Mai: Ysgol Heol-y-Celyn – gwasanaeth yn yr uned Gymraeg a gwers i flwyddyn 6
12 Mai: Ysgol Pen-y-garth – gwasanaeth ysgol a gwers gyda blwyddyn 6
14 Mai: Ysgolion Gwaun-y-Nant, Sant Baruc ac Ysgol Sant Curig, y Barri.
19 Mai: Ysgol Castellau – gwasanaethau x 2
20 Mai: Uned Cefn Coed – gwasanaeth; pumed sesiwn o hyfforddi darpar weithwyr 7-9.0pm
3 Mehefin: Ysgol Pont Siôn Norton – dosbarthu Y Cam Nesa i flwyddyn 6
5 Mehefin: Siarad am waith y Fenter yng nghwrdd gweddi Eglwys Efengylaidd Llanisien
9 Mehefin: Uned Derwen, Llaneirwg – gwasanaeth babanod
11 Mehefin: Cyfarfod yr OAC yng nghartref Dick Jenkins
13 Mehefin: Siarad yng nghwrdd gweddi Danescourt, Llandaf, yn y prynhawn
16 Mehefin: Ysgol y Berllan Deg – dosbarthu Y Cam Nesa i flwyddyn 6
1 Gorffennaf: Diwrnod trawsgwricwlaidd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen
2- 3 Gorffennaf: cynorthwyo yn ymgyrch Reach the City t yng Nghaerdydd
Cwrs Y Beibl Chwilotwr yn ysgol Melin Gruffydd – 22/05/08;5/06/08;12/06/08;19/06/08;26/06/08 (10.00 – 11.00am)
Beibl Chwilotwr
Rhaglen ddysgu wedi’i haddasu a’i chyfieithu o’r rhaglen i oedolion ‘Walk Thru the Bible’ ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 & 6 yw’r ‘Beibl Chwilotwr’. Mae’n ddull o ddysgu trwy ddefnyddio arwyddion er mwyn cyfleu straeon a gwirioneddau’r Beibl mewn ffordd fywiog a chofiadwy. Mewn 5 gwers awr o hyd rydyn ni’n dysgu’r Hen Destament mewn 77 o arwyddion! Mae’r plant wrth eu boddau yn gwisgo i fyny ac yn actio’r gwahanol gymeriadau.
Mae rhaglen yn bodoli ar gyfer y Testament Newydd hefyd, lle maen nhw’n dysgu 32 o arwyddion, ac ar ddiwedd y ddwy raglen, cyflwynir gwasanaeth i’r ysgol gyfan, gyda’r disgyblion yn ‘perfformio’r’ arwyddion. Un o brif fwriadau’r ‘Beibl Chwilotwr’ yw dangos i blant nad llyfr diflas i hen bobl yw’r Beibl ond llyfr arbennig sy’n dangos sut mae Duw wedi gweithio yn y gorffennol a sut mae’n dal i weithio heddiw.
Rhaid hyfforddi i fod yn gyflwynydd. Enw cynrychiolydd ‘Beibl Chwilotwr’ yng Nghymru yw Chris Thomas, 91 Ruskin Ave, Rogerstone, Casnewydd NP10 0BD Ffôn 01633 662997.
Pwyntiau gweddi dros y gwaith:
- Gofyn i’r Arglwydd gadw drysau ein hysgolion ar agor, rhoi clustiau a chalonnau agored i’r plant a’r athrawon. Mae cael cefnogaeth yr athrawon mor bwysig gan fod plant yn synhwyro os oes amheuon neu ddiffyg diddordeb.
- Gweddïo am egni am fod angen llawer ohono i gyflwyno mewn ffordd fywiog am awr ar y tro!
Gwaith Ysgolion yn ardal Aberystwyth a Cheredigion
Mae tîm o wirfoddolwyr wedi eu sefydlu yng Ngheredigion hefyd, sy’n gweithio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn yr ardal, gan ganolbwyntio’n bennaf ar gynnal gwasanaethau boreol. Am fwy o fanylion, cysylltwch â Roger Thomas: revrogertthomas / 01970 612481.