Gwyliau Tegid

Bryn-y-Groes

Y Bala

Ebrill 19-23, 2010

Gwyliau Cristnogol i bobl dros 45 yw ‘Gwyliau Tegid’

Pleser o’r mwyaf yw estyn croeso i chi i Wyliau Tegid ddiwedd mis Ebrill.

Fe fydd ffyddloniaid y Gwyliau yn dod yn ôl eu harfer oherwydd y mwynhad a’r fendith maent wedi derbyn yno.
A gaf i ofyn i’r sawl sydd heb fod o’r blaen i ystyried hynny?

Pwy sy’n gallu dod i Gwyliau Tegid?
Gwyliau i Gristnogion dros 45 oed yw Gwyliau Tegid. Mae croeso i unrhyw un sy’n rhydd i ddod rhwng Ebrill 19-23, 2010. Nid oes prawf oedran!

Beth sydd yno i ddenu un i ddod?

  • Yr hyfrydwch hamddenol yn ardal brydferth Bryn-y-groes a’r Bala.
  • Yr hyfrydwch o gymdeithas felys â phobl yr Arglwydd.
  • Yr hyfrydwch o addoliad cynnes o gwmpas Gair Duw, ar ffurf oedfa bregethu yn y boreau ac addoliad mwy anffurfiol yn yr hwyr.

Mae’r Gwyliau yn gyfrwng yn llaw Duw i’n cadarnhau yn y ffydd, i gyfoethogi ein profiad ac i’n dwyn yn nes at yr Arglwydd Iesu Grist.

Ystyriwch felly, a dewch. Fe fyddwch ar eich ennill o ddod.

Am fwy o fanylion cysylltwch gyda’r swyddfa ym Mryntirion.

I lawrlwytho’r daflen a’r rhaglen cliciwch yma: Gwyliau Tegid 2010

Prisiau Gwyliau Tegid

  • Wythnos: £152
  • Un diwrnod ac un noson: £40
  • Un pryd bwyd: £7
  • Diwrnod: £21 (gan gynnwys 2 bryd bwyd a chyfraniad)
  • Cyfarfod a phaned: Rhodd wirfoddol (awgrymwn rodd o £7 y dydd)