Yr Encil 2010!

Bryn y Groes, Y Bala

Chwefror 17 – 19

Gwersyll i bobl ifanc 10 – 17

Mae Encil yr Ifanc 2010 yn addo bod yn wersyll i’w gofio!

Mae’r arweinwyr yn barod, mae’r Caplan yn barod, mae’r swogs yn barod…yr unig beth sydd ar goll yw’r gwersyllwyr!

Dros dri diwrnod cewch gyfle i wneud ffrindiau newydd yn ogystal â mwynhau cwmni hen rai. Bydd llu o weithgareddau wedi trefnu ar eich cyfer, ond uchafbwynt y gwersyll fydd dysgu o Air Duw drwy astudiaethau efo’r swogs ac anerchiadau Dewi Tudur.

Peidiwch oedi i sicrhau eich lle ar Encil yr Ifanc!

Y Tîm Arwain

aledAled Myrddin

Mae Aled wedi bod yn byw ym Machynlleth gyda’i wraig Erin ers 2 flynedd. Mae’n gweithio yn Ysgol Bro Ddyfi fel athro Addysg Gorfforol, ac yn mwynhau ei swydd yn fawr iawn. Mae Aled yn hoff iawn o chwaraeon (yn amlwg!). Yn ogystal mae ganddo ddiddordeb mewn cerddoriaeth ac yn mwynhau cyfansoddi a pherfformio yn ei amser sbar. Mae Aled yn edrych ymlaen at yr Encil, er mwyn dod i adnabod pobl newydd, a datblygu perthynas gryfach gyda Duw.


dewiDewi Tudur

Cafodd Dewi ei eni yn Llwyndafydd, Sir Aberteifi. Mae’n Gristion ers yn ifanc. Erbyn hyn mae’n byw yn Nhalsarnau ger Harlech, yn Swyddog Lles yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog ac yn Weinidog rhan amser. Mae wrth ei fodd yng nghwmni plant a phobl ifanc ac yn falch o’r cyfle i gael siarad am yr Arglwydd Iesu Grist hefo nhw. Mae’n dad i 5 o
fechgyn ac mae’n hoffi gwylio ffilmiau Clint Eastwood a chwarae snwcer!

Eisiau dod i’r Encil?

Rhaid llenwi’r ffurflen, a’i ddychwelyd efo taliad llawn o £55 at:

Lowri Iorwerth
Mudiad Efengylaidd Cymru
Bryntirion
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4DX

Erbyn 6 Chwefror 2009

Wedi derbyn yr archeb fe anfonir ffurflen feddygol a rheolau’r Encil i chi. Bydd rhaid dychwelyd y ffurflen feddygol cyn y gellir derbyn plentyn ar yr encil.

I lawrlwytho taflen archeb, cliciwch ar y ddolen: