Gyda’r gaeaf caled yn prysur ddiflannu a’r nosweithiau’n ymestyn mae’r meddwl yn dechrau troi at yr haf … ac i’r Cymro gall hynny ddim ond golygu un peth … yr eisteddfod! Ers 1949 mae’r Mudiad Efengylaidd wedi bod a phresenoldeb ar faes ein prifwyl ac yn y blynyddoedd diwethaf mae gwaith o drefnu gweithgarwch y Mudiad ar y maes wedi ei arwain gan Keith Lewis. Aeth Steffan Job i’w holi am ei hanes ac am y gwaith pwysig yma.
Steffan: Diolch am gytuno i siarad â ni. Beth am gychwyn drwy roi ychydig o’ch hanes i ni?
Keith: Cefais fy magu yn Ystradgynlais ac yna yn 1956 es i’r Brifysgol ym Mangor, siwrne hir iawn ar y trên! Tra yn y coleg mi wnes fynd ar wersyll Cristnogol yng Nglynllifon (ger Caernarfon) ac ar y gwersyll yna digwyddodd dau beth pwysig iawn i mi, mi ddes i’n Gristion ac mi wnes i gyfarfod a fy ngwraig, Rhiain. Ar ôl treulio 6 mlynedd ym Mhwllheli symudais i Aberystwyth lle’r oeddwn yn athro Mathemateg a chefais dri o blant. Dwi bellach wedi ymddeol ond yn parhau i fyw yn Aberystwyth lle’r wyf yn henuriad yn yr Eglwys Efengylaidd.
Steffan: Felly sut y daethoch i fod yn rhan o waith yr eisteddfod?
Keith: Des yn rhan o’r gwaith yn ’84 yn eisteddfod Llanbed. Roeddwn wedi bod yn helpu gyda gwaith gwersylloedd y Mudiad ers blynyddoedd, ond roeddwn yn teimlo fy mod yn mynd yn rhy hen i barhau gyda’r gwaith yna, felly penderfynais helpu gyda thîm efengylu’r Mudiad ar faes yr Eisteddfod. Roedd yn gyfle gwych i wneud gwaith Cristnogol yn ystod yr haf.
Steffan: Fel rhywun sydd wedi bod yn rhan o gymaint o ymgyrchoedd Eisteddfodol oes un Eisteddfod yn sefyll allan?
Keith: Mae’n rhaid cyfaddef fod y cyfan braidd yn niwlog yn y cof bellach. Dwi’n cofio’r mwd yn eisteddfod Abergwaun! Dwi hefyd yn cofio eisteddfod y Bala yn ’97. Roedden ni fel tîm yn aros ym Mryn-y-groes (canolfan breswyl MEC) a dwi’n cofio cerdded lawr y stryd fawr i’r Eisteddfod ac roedd y dref yn llawn o bobl a chael cyfleoedd arbennig i sgwrsio. Nifer o flynyddoedd wedyn mi glywais am ddyn oedd wedi dweud mai yn Bala, wrth sgwrsio gydag aelod o’r tîm, y cafodd ei argyhoeddi am bethau Ysbrydol am y tro cyntaf. Mae pob eisteddfod yn arbennig mewn ffordd wahanol i fod yn onest ond un peth sy’n wir am bob eisteddfod yw’r gymdeithas gynnes sydd rhwng aelodau o’r tîm. Pethau arall sy’n sefyll allan yw cyfarfodydd awyr agored yr oeddem yn eu cynnal, yr oedfaon arbennig a’r winllan (lle i gael paned a sgwrs yn ystod y nos). Mae’r ffordd yr ydym yn gweithio wedi newid llawer dros y blynyddoedd.
Steffan: Mae’n amlwg fod llawer o weithgarwch wedi bod yn mynd ymlaen gan y Mudiad dros y blynyddoedd, ond pam fod y Mudiad yn bresennol ar y maes?
Keith: Rydym ni ar y maes gan fod gennym ni efengyl yw cyhoeddi ac mae ein gwlad ni angen clywed y newyddion da yna, fod maddeuant i’w gael gan Dduw drwy Iesu Grist. Rheswm penodol dros fynd i’r eisteddfod yw bod cyfle arbennig yno i dystiolaethu gyda’n cyd-Gymry. Yn gyffredinol bellach yng Nghymru mae gan eglwysi llai o gysylltiadau gyda phobl yn y gymuned, ond yn yr eisteddfod mae’r cysylltiadau yna yn codi yn naturiol. Ein byrdwn mawr ym mhabell y Mudiad yw bod yn groesawgar a chyfeillgar, de ni ddim yn gwthio neb i siarad, ond yn aml gwelwn sgyrsiau a chyfleodd yn codi yn naturiol, mae yna lawer o bobl yn chwilio am atebion. Mae’r cysylltiadau a’r cyfeillgarwch sy’n cael ei greu yn werthfawr iawn.
Steffan: Ym mis Awst fe fydd yr eisteddfod yn Wrecsam, beth fydd yn digwydd ym mhabell y mudiad ar y maes y flwyddyn yma?
Keith: Bydd gan y mudiad babell fawr pedair uned (12 medr o led) a’r prif beth fydd yn digwydd yn y babell fydd bod yn gyfeillgar! Byddwn yn croesawu pawb a’u hannog i eistedd a chael paned a bisgedi o fewn yr awyrgylch Cristnogol. Bydd llawer o sgwrsio naturiol a thrafod yn digwydd mae’n si?r. Bydd gennym arddangosfa arbennig ‘Darganfod Cristnogaeth’ yn ceisio esbonio’r newyddion da am Iesu Grist a byddwn yn dosbarthu tractiau o gwmpas y maes. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym yn cynhyrchu nifer o dractiau gwahanol gan gynnwys tractiau sy’n cyd-fynd a phrif gystadlaethau’r eisteddfod. Bydd gennym waith plant eleni eto ac wrth gwrs byddwn yn gwerthu llyfrau a chardiau Cristnogol. Ein nod yn y babell yw dangos cyfeillgarwch a chroesawu pobl i ymlacio a chael sgwrsio am y ffydd Gristnogol .
Steffan: Un o’r peryglon am wn i o ymgyrchu o’r fath yma yw ein bod fel Cristnogion yn ymweld ag ardal neu ddigwyddiad arbennig am wythnos, ond nad oes dim parhau gyda’r gwaith wedyn. Yw’r gwaith yma yn gymorth i’r eglwysi yn ardal yr eisteddfod ac i eglwysi eraill yn fwy cyffredinol?
Keith: Dwi’n credu bod y gwaith o fudd mawr i’r ardal leol ac i eglwysi drwy Gymru. Un peth sydd wedi datblygu yn ddiweddar yw bod llawer mwy o Gristnogion o’r ardal leol yn helpu gyda’r gwaith. Rydyn ni’n gweld fod Cristnogion o nifer o eglwysi lleol, sydd yn aml yn weddol fach, yn dod at ei gilydd ac yn cael cyfle i sgwrsio a rhannu gyda’r bobl ar y maes. Gwelwn fod cysylltiadau yn cael eu gwneud rhwng pobl sy’n parhau ym mhell wedi i’r eisteddfod adael. Mae’r gwaith hefyd yn gymorth i eglwysi yn fwy cyffredinol gan fod pobl o eglwysi o bob rhan o Gymru wedi ymuno gyda’r tîm dros y blynyddoedd. Wrth weithio mewn tîm gyda Christnogion eraill mae’r bobl yma yn datblygu doniau, dysgu oddi wrth eraill mwy profiadol a chael hwb a datblygu baich dros rannu’r efengyl.
Steffan: Mae’n amlwg fod baich mawr gennych dros y gwaith. Pam ‘de chi’n meddwl ei fod mor bwysig?
Keith: Mae’n bwysig gan ei fod yn dangos i’n cyd-Gymry nad rhywbeth sych a diflas yw Cristnogaeth ond rhywbeth llawen a byw. Dwi’n credu fod gennyf i gyfrifoldeb fel Cymro dros bobl fy nghenedl a lle sydd yn fwy addas i wneud hyn nag ar faes ein prifwyl? Peth arall sy’n digwydd yn y babell yw bod Cristnogion yn cael cyfle i gyfarfod a’i gilydd a rhannu, mae hynny yn beth braf iawn i’w weld.
Steffan: Ydych chi’n chwilio am gymorth yn Wrecsam, ac os felly pwy sy’n gallu helpu gyda’r gwaith?
Keith: Yn sicr! Mae croeso i unrhyw Gristion ddod a chyfrannu yn ystod yr wythnos. Nid ydym yn trefnu llety i’r tîm bellach, felly mae’n rhaid i bawb wneud ei drefniadau ei hun, ond byddem wrth ein bodd yn croesawu mwy ar y tîm. Gall person ddod am yr wythnos gyfan neu am ychydig oriau a does dim ots beth yw eich dawn. Mae gymaint all person ei wneud boed yn sgwrsio, tractio, gweini, gwneud paned o de, gweithio gyda phlant neu werthu llyfrau. Byddem yn annog pobl leol yn arbennig i ddod ac ymuno a ni.
Steffan: Wel diolch am siarad gyda ni. Cyn gorffen oes gennych chi unrhyw neges i ddarllenwyr y cylchgrawn?
Keith: Byddwn yn annog pawb i ystyried os oes modd iddynt gyfrannu mewn rhyw ffordd. Os nad oes modd i chi ddod i Wrecsam eleni rydym yn chwilio am gymorth i ysgrifennu tractiau, cynllunio, cymorth ariannol i helpu gyda chostau a hefyd cymorth i hysbysu eraill am y gwaith. Cofiwch hefyd am Gristnogion eraill sy’n bresennol yn yr eisteddfod gan gynnwys y gorlan, stondin cyhoeddiadau’r gair a phebyll yr eglwysi eraill. Ond y prif beth y byddwn yn annog pawb i wneud yw gweddïo dros y gwaith. Mae’n bwysig gweddïo o flaen llaw ac yn ystod yr wythnos a hefyd gweddïo yn ddisgwylgar. Gweddïwch dros y tîm, dros ein perthynas gyda stondinwyr eraill a thros ein tystiolaeth ni ar y maes.
Os hoffech fwy o wybodaeth am waith y tîm ar yr eisteddfod yna cysylltwch â Dafydd Picton Jones (Capel y Ffynnon Bangor) a fydd yn arwain y tîm y flwyddyn yma yn Wrecsam ( dafyddpj@gmail.com 01248 712488) neu Steffan Job gweithiwr y Mudiad (steffanjob@mudiad-efengylaidd.org 01248 351417).