Ymgyrchoedd y gorffennol

Dyma rai adroddiadau o’r ymgyrchoedd sydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf:

Ymgyrch Abertawe a’r cyffuniau – 31 Hydref – 7 Tachwedd, 2010

  • Roedd chwe eglwys wedi cymryd rhan, dros 15,000 o bapurau newydd wedi’u dosbarthu a thua tri deg o ddigwyddiadau wedi cymryd lle – a bwriad y cyfan oedd estyn allan i’r cymunedau lleol gyda newyddion da ein hefengyl ogoneddus. Dyma rai sylwadau a gafwyd gan wahanol aelodau o’r eglwysi wrth edrych yn ôl ar y cyfan:
  • ‘Hoffwn ddiolch i Dduw am iddo ddod â gwahanol eglwysi at ei gilydd. Sylfaenwyd yr ymgyrch ar ein cyfnodau o weddio gyda’n gilydd. Roedd yn fraint gweddïo dros ein gilydd.’
  • ‘Roedd y papurau newydd yn fodd i gychwyn nifer o drafodaethau gyda chyfeillion, teulu a chydweithwyr. Cawsant eu darllen gan bobl na fyddai byth yn mynd ar gyfyl eglwys’
  • ‘Mae trefnu cyfarfodydd sy’n cynnwys tystiolaeth a phregethu’n unig yn gweddu’n wych ar gyfer pobl o’r tu allan. Dangosir gwirionedd efengyl sy’n newid bywydau drwy i fywydau gael eu newid.’
  • ‘Mi wnes i wir fwynhau popeth yr es iddo. Roedd Duw’n defnyddio’r siaradwyr i siarad yn uniongyrchol gyda phobl, gan fy nghynnwys i. Rwy’n hyderus bod yr had mwstard a heuwyd yn mynd i dyfu ac y byddwn yn gweld ffrwyth i’r wythnos ymlaen i’r dyfodol.’
  • ‘Wythnos wych o gyfleon i rannu’r efengyl ac i wahodd ffrindiau a theulu i glywed am ein Gwaredwr rhyfeddol.’
  • ‘Roedd y sesiwn hyfforddiant ar gyfer efengylu’n ymarferol iawn – mae angen mwy o sesiynau tebyg arnom. Mae angen i ni feddwl o ddifrif ynglyn â sut y gallwn wneud yn siwr bod ein hefengylu’n addas i’n diwylliant heddiw heb lastwreiddio’r efengyl.’
  • ‘Roedd yn drueni nad oedd cymaint o anghredinwyr yn bresennol ag yr oeddem wedi obeithio. Mae angen i ni gymysgu mwy er mwyn gwneud yn siwr bod gennym ffrindiau nad ydynt yn Gristnogion y gallwn eu gwahodd pan fydd cyfle.’
  • ‘Cefais fy siomi nad oedd neb o’r rhai a wahoddwyd gennyf wedi dod i’r cyfarfodydd ond roedd yn dda cael cysylltiad â rhai pobl newydd. Rhaid i ni gadw cysylltiad â’r rhain. Nid diwedd yw’r ymgyrch ond dechrau.’
  • ‘Rwyf wedi ymroi mwy i gyrraedd allan yr wythnos hon nag erioed a dani wedi siarad mwy efo pobl am Iesu. Mae wedi bod yn rhyfeddol gweld Duw’n dod â phob math o bobl i mewn i glywed yr efengyl mewn ffordd mor eglur a grymus a chawsom ein hatgoffa y dylem fod yn ymgyrchu nid am un wythnos ond pob wythnos drwy’r flwyddyn.’

Ymgyrch Abaty Nedd – 2010

Yr eglwys ddiweddaraf i redeg ymgyrch gyda help MEC yw Eglwys Efengylaidd Ebeneser, Abaty Nedd, eglwys fechan ar gyrion Castell Nedd ger Abertawe. Dros nifer o flynyddoedd maent wedi tystio’n ffyddlon i’r gymuned leol ond dyma’r tro cyntaf iddynt gynnal ymgyrch wythnos. Cynhaliwyd gweithgareddau megis gwasanaethau boreol mewn ysgolion, cyfarfodydd arbennig a gwasanaeth carolau. Roedd yr ymateb yn gadarnhaol gyda llawer o rai sydd ddim yn Gristnogion yn cael clywed yr Efengyl a saith deg o bobl ifanc yn mynychu gwasanaeth Ieuenctid. Ceir adroddiad llawnach ar dudalen 30 o’r Cylchgrawn Saesneg a’r Cylchgrawn Efengylaidd. Os gwelwch yn dda gweddïwch dros yr eglwys yn Abaty Nedd a thros y rhai a gafodd glywed yr efengyl yn ystod yr wythnos.

Ymgyrchoedd Caernarfon, Llanbed, Townhill a Pontardawe – 2009

Ymgyrch Cymru yw’r cam mwyaf diweddar i ni ei gymryd i fynd a’r efengyl allan i Gymru. Trefnwyd tair ymgyrch beilot mewn cymunedau gwahanol iawn. Townhill a Mayhill (Abertawe), Caernarfon (Gogledd Cymru) ac yn Llanbed (Canolbarth Cymru). Ymgymerwyd â’r gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaernarfon, yn Saesneg yn Townhill ac yn ddwyieithog yn Llanbed. Cynhaliwyd ymgyrch arall ym Mhontardawe, yng Nghwm Tawe, pryd y dosbarthwyd dros 4,000 o bapurau newydd yn y cylch. Gan weithio drwy wahoddiad eglwys leol ym mhob cymuned, cynhaliwyd nifer o amrywiol weithgareddau yn cynnwys hyfforddiant pêl droed, dosbarthu cylchgrawn/ papur newydd cymunedol, siarad gyda phobl yn yr awyr agored wrth fwrdd llenyddiaeth, gweithgareddau i blant, teuluoedd ac i gymunedau, a’r cyfan am ddim. Ffurfiwyd timoedd o weithwyr gwirfoddol o eglwysi dros Gymru ar gyfer pob ymgyrch.