Cynhadledd Gweinidogion Newydd

Cynhadledd Gweinidogion Newydd (Saesneg gyda dewis o seminarau Cymraeg):

  • Lleoliad: Bryn-y-groes, Y Bala
  • Dyddiad: 28-30 Tachwedd 2011
  • Siaradwyr: Paul Mallard (mwy i ddilyn)
  • Gwybodaeth i ddod yn fuan

Mae’r blynyddoedd cyntaf o weinidogaeth llawn amser yn cynnwys nifer i her wahanol. Mae’r gynhadledd yma wedi ei threfnu yn y gobaith y bydd y ddysgeidiaeth a chymdeithas yn arfogi gweinidogion i ddelio gyda’r sialensiau sydd o’u blaen. Bydd y dysgu yn digwydd drwy sgyrsiau, seminarau a thrafodaethau. Gobeithiwn hefyd y bydd y cyfeillgarwch a pherthnasau a fydd yn cael eu llunio yn y gynhadledd yn parhau am nifer o flynyddoedd wrth i’r gweinidogion newydd gynnal ei gilydd.

Mae’r gynhadledd wedi ei threfnu gan Fudiad Efengylaidd Cymru fel rhan o’n blaenoriaeth i gynnal a datblygu gweinidogion newydd. Mae’r gynhadledd yn agored i unrhyw un sydd yn ei pum mlynedd  gyntaf o weinidogaeth, neu’n fyfyriwr yn ei blwyddyn olaf o gwrs diwinyddol.

Am fwy o fanylion cysylltwch gyda Steffan Job, trefnydd y gynhadledd.