Athro. Art Azurdia III
Mae Art yn ddarlithydd cyswllt mewn diwinyddiaeth fugeiliol a gweinidogaeth eglwysig yn Athrofa’r Gorllewin yn Portland, Oregon. Ef yw awdur y llyfr Spirit Empowered Preaching ac mae’n gyfrannwr i nifer o lyfrau eraill gan gynnwys Heralds Of The King: Essays In Honor Of Edmund P. Clowney. Mae’n briod â Lori ac mae ganddynt ddau o blant.
Andrew Davies
Mae Andrew wedi gweinidogaethu yn Seland Newydd, Awstralia, Lloegr a Chymru. Mae wedi darlithio mewn hanes yr eglwys a phregethyddiaeth yn Athrofa Ddiwinyddol Llundain, Coleg Diwinyddol Cymru Bryntirion ac ar Gwrs Diwinyddol y Mudiad Efengylaidd. Mae’n briod â Pam ac mae ganddynt bedwar o blant a deg o wyrion ac wyresau.
Bill Dyer
Mae gan Bill brofiad helaeth o waith Cristnogol gan ei fod wedi bod yn weinidog ar Eglwys Efengylaidd Pontefract am dros ddeugain o flynyddoedd. Mae bellach yn swyddog hyfforddi’r Gymdeithas Efengylaidd o Eglwysi Cynulleidfaol.
Gwynn Williams
Gwynn yw gweinidog yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae’n siaradwr cyson mewn cynadleddau, yn ddarlithydd ar nifer o gyrsiau diwinyddol ac yn awdur nifer o lyfrau. Mae’n briod â Liz ac mae ganddynt ddau o blant.
Phil Swann
Phil yw gweinidog Eglwys Rydd Llanelli. Mae wedi gweinidogaethu mewn eglwysi yng Nghymru a Lloegr. Mae’n darlithio mewn diwinyddiaeth fugeiliol ar Gwrs Diwinyddol y Mudiad Efengylaidd. Mae’n briod â Karyn, ac mae ganddynt un plentyn.
Martin Downes
Martin yw gweinidog Eglwys Crist, Glannau Dyfrdwy, Gogledd Cymru. Mae ganddo brofiad helaeth o fugeilio a datblygu dynion ifanc Cristnogol gan ei fod wedi bod yn arwain UCCF yng Nghymru am nifer o flynyddoedd. Ef yw awdur y llyfr newydd Risking the Truth. Mae’n briod â Debbie ac mae ganddynt ddwy o ferched.
Geoff Thomas
Geoff yw gweinidog Eglwys Alfred Place, Aberystwyth. Mae’n siaradwr cyson mewn cynadleddau ac mae’n awdur ar nifer o lyfrau gan gynnwys Daniel, Servant of God under Four Kings, The Life of Ernest Reisinger a Philip and the Great Revival in Samaria. Mae’n briod â Iona ac mae ganddynt dair merch a naw o wyrion ac wyresau.