Mae’r blynyddoedd cyntaf mewn gweinidogaeth yn flynyddoedd cyffrous a heriol. Mae Duw yn gyrru sawl sialens i dy herio a’th wneud yn ostyngedig yn ei wasanaeth. Un foment rwyt yn teimlo’n isel gyda’r diffygion a’r anawsterau, ac yna’r foment nesaf rwyt yn llawen o weld Iesu yn gweithio drwy dy weinidogaeth – ac mae hyn yn rhan o fywyd dyddiol fel gweinidog. Mae’r blynyddoedd yma yn flynyddoedd holl bwysig – blynyddoedd sy’n llunio meddwl a chymeriad gwas Duw ar gyfer y dyfodol. Maent hefyd yn flynyddoedd lle bydd y ffrindiau ‘rwyt yn eu gwneud yn gymorth mawr i ti yn dy weinidogaeth yn y dyfodol. Mae’r gynhadledd hon yn gyfle i ti gael dy adnewyddu a’th galonogi gan gymdeithas a dysgeidiaeth pobl sy’n deall y sialens ‘rwyt yn ei wynebu.
Ar gyfer dynion sy’n groes ganolog, yn credu’r Beibl ac yn caru’r Arglwydd Iesu Grist, ac sydd yn eu pum mlynedd gyntaf o weinidogaeth neu yn eu blwyddyn olaf yn y coleg diwinyddol.
Gwybodaeth Allweddol:
Dyddiad: 23-25 Tachwedd, 2009
Venue: Canolfan Gynadleddau Bryn-y-Groes, Bala, Gogledd Cymru
Siaradwyr: Athro Art Azurdia III, Bill Dyer, Andrew Davies, Martin Downes, Phil Swann, Geoff Thomas, Gwynn Williams
Amcanion y Gynhadledd:
I annog, ysbrydoli a pharatoi gweinidogion ar gyfer bywyd o weinidogaethu
I adeiladu cyfeillgarwch a fydd yn parhau a chefnogi gweinidog
I archwilio a datblygu ein cymhelliad yn ein gweinidogaeth
I gynyddu ein golwg o Dduw, yr Arglwydd Iesu Grist a’r Ysbryd Glân
Dyma ychydig o flas o’r sesiynau sydd ar gael ….
Noder mai iaith y prif sesiynau fydd Saesneg. Bydd y grwpiau trafod a rhai o’r seminarau yn Gymraeg.
Er ei ogoniant – pedair sesiwn wedi eu harwain gan Art Azurdia
Gogoniant ar y dibyn – dwy sesiwn wedi eu harwain gan Bill Dyer
Newid heb y ‘sledgehammer’ – Andrew Davies
Seminarau:
Facing error and opposition in the Church (2 Timothy 2:14-3:9) Martin Downes
Pregethu 360 gradd (2 Timotheus 4:1, 2) Gwynn Williams
Being an evangelistic pastor (2 Timothy 4:3-5) Bill Dyer
Bryniau i farw arnynt – datblygu blaenoriaethau Beiblaidd mewn gweinidogaeth Gwynn Williams
No secret sins: seeking purity in public and private ministry (2 Timothy 1:9; 2:22) Andrew Davies
Foundations for long term ministry (2 Timothy 3:10-17) Geoff Thomas
Bydd digon o amser i ymlacio ac adeiladu perthnasau yn ystod y gynhadledd. Mae gweithgareddau awyr agored wedi eu trefnu ar gyfer prynhawn Dydd Mawrth gan Matt Rees. Mae Bryn y Groes yn cynnig adnoddau safonol a phrydau da mewn awyrgylch hamddenol a braf.
Côst
Llety llawn – £150
Arbedion ‘cyntaf i’r felin’ (i’r rhai sy’n archebu lle cyn 30 Medi) – £120
Ymwelydd dyddiol – £30 (ddim yn cynnwys pryd bwyd)
Sut i archebu
Cwbwlhewch y Daflen Archeb a’u danfon at weinyddwr y cwrs:
Steffan Job – 34 Bro Rhiwen, Rhiwlas, Bangor, Gwynedd, Ll57 4EL. steffanjob@mudiad-efengylaidd.org (01248) 351417
Mwy o wybodaeth:
Cronfa Goffa Elwyn Davies (tudalen i ddod yn fuan)
Lleoliad (tudalen i ddod yn fuan)
