Lleoliad

Lleoliad y gynhadledd yw Aberystwyth, Sir Ceredigion ac er bod y rhaglen yn gynhwysfawr, bydd digon o gyfle i ymlacio a meddwl dros yr hyn sydd wedi ei glywed, yn enwedig gan fod traeth y Borth yn agos a digon o gaffis a siopau yn Aber.
Cartref y gynhadledd fydd Canolfan Gynadledda MedRus ar gampws Penglais (gweler y map).

Yn ogystal â’r golygfeydd godidog o Aberystwyth a’r ystafelloedd braf i gyfarfod, mae bwyty a chaffi yn rhan o’r ganolfan at ein defnydd.


Bwyta ar gampws y Coleg
Er mai dim ond llety hunanarlwyo sydd yn cael ei gynnig ar gampws y coleg mae dau gaffi/bwyty o safon at ddefnydd y cynadleddwyr eleni:

  1. TaMed Da (8yb-7yh) – Bwyty o safon sydd yn rhan o ganolfan MedRus. Lle hyfryd i gael paned yn y bore neu ginio (brechdanau neu rywbeth mwy cynhwysfawr!).
  2. Caffi’r Neuadd fawr – O fewn tafliad carreg i MedRus. Caffi yn cynnig prydau ysgafn, paneidiau ac ambell i gacen flasus!

Parcio

  • I’r rhai sy’n aros yn neuaddau’r coleg – Byddwch yn cael parcio ym meysydd parcio’r neuaddau ac yn gallu cerdded i’r prif gyfarfodydd.
  • I’r rhai fydd angen cludiant at ddrws y ganolfan neu sy’n teithio i’r gynhadledd o fan arall – mae rhai mannau parcio y tu allan i’r ganolfan (gofynnwn yn garedig i chi ddefnyddio’r mannau yma dim ond os byddwch angen). Yn ogystal â’r maes parcio talu ac arddangos, bydd modd defnyddio meysydd parcio’r coleg (bydd angen permit a fydd ar gael o’r bwrdd croesawu yn y brif ystafell gyfarfod).

Map