Y Gynhadledd flynyddol

Y Gynhadledd – ymunwch a ni!

Mae’r Gynhadledd yn wyliau ac yn gyfle i uno o gwmpas gwirioneddau canolog yr efengyl gyda phobl o bob oedran ac o bob rhan o Gymru. Daw Cristnogion at ei gilydd am wythnos o ddysgeidiaeth Feiblaidd, cymdeithas gynnes ac i addoli’r Arglwydd Iesu Grist.

Mae’n gyfle gwych i gael ein hadnewyddu a’n harfogi wrth i ni droi at Dduw gyda’n gilydd i wrando ar ei air ac i alw am ei fendith.

Lleoliad y gynhadledd yw Aberystwyth, Sir Ceredigion ac er bod y rhaglen yn gynhwysfawr, bydd digon o gyfle i ymlacio a meddwl dros yr hyn sydd wedi ei glywed, yn enwedig gan fod traeth y Borth yn agos a digon o gaffis a siopau yn Aber. Cartref y gynhadledd eleni fydd canolfan gynadledda MedRus ar gampws Penglais.

Byddem wrth ein bodd pe byddech yn ymuno â ni fis Awst yn Aberystwyth. Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!
- Steffan Job (cadeirydd y grwp trefnu)

Y gynhadledd, cyfle i…

Wrando ac ymateb i Air Duw – Canolbwynt y gynhadledd yw’r anerchiadau boreol ac oedfaon y nos. Prif siaradwr y gynhadledd eleni yw Dafydd Job a fydd yn ein hannerch bob bore. Yn oedfaon y nos byddwn yn cyd-addoli drwy ganu, gweddïo, darllen y Beibl, rhannu ac edrych ar fywyd y Cristion gan ei gymharu â ras olympaidd.

.

.
Alw ar enw Duw – Mae gweddi yn rhan bwysig iawn o’r cyfan a fydd yn digwydd yn y gynhadledd. Dafydd Picton Jones o Borthaethwy fydd yn arwain y cyfarfodydd gweddi boreol.

.

 

Mwynhau a chymdeithasu – Mae’r gynhadledd yn gyfle i gyfarfod â Christnogion eraill o bob rhan o Gymru (a thu hwnt!). Yn ogystal â chyd addoli gydag eraill yn y cyfarfodydd, bydd digon o gyfle i rannu, ymlacio a chwrdd â ffrindiau newydd boed hynny yn anffurfiol neu drwy’r barbeciw, noson 20au a 30au, prynhawn o chwaraeon neu drwy gael paned cyn cyfarfodydd y bore yng nghaffi TaMed Da!

.

I’r plant – Trefnir cyfarfodydd ar gyfer y plant yn ystod anerchiadau’r bore. Caiff y plant gyfle i ddysgu storiâu o’r Beibl, canu caneuon, gwneud crefft a chael llond trol o hwyl o dan arweiniad Gwydion a Ffion Evans!

.

 

I’r ieuenctid – Darperir llety arbennig i’r ifanc yn y gynhadledd. Bydd yr ieuenctid yn mynychu’r prif gyfarfodydd, ond bydd digon o gyfle i drefnu gweithgareddau mwy anffurfiol a chyfarfodydd arbennig drwy gydol yr wythnos.

.

 

Unrhywbeth arall? – Bydd cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg ar gael ym mhob un o’r prif gyfarfodydd. Mae’r gynhadledd hefyd yn gyfle i ddysgu a gweld beth sy’n digwydd yn y byd Cristnogol yng Nghymru drwy rannu hanesion yn y prif gyfarfodydd, a rhannu beichiau yn y cwrdd gweddi.

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y doleni isod: