Gwyliau Tegid

Gwyliau Tegid
Bryn-y-groes, Y Bala
23-27 Ebrill, 2012
Gwyliau Cristnogol i rai dros 45

Pleser o’r mwyaf yw estyn croeso i chi i Wyliau Tegid ddiwedd mis Ebrill.
Fe fydd ffyddloniaid y Gwyliau yn dod yn ôl eu harfer oherwydd y mwynhad a’r fendith maent wedi derbyn yno.
A gaf i ofyn i’r sawl sydd heb fod o’r blaen i ystyried hynny?

Pwy sy’n gallu dod i Gwyliau Tegid?
Gwyliau i Gristnogion dros 45 oed yw Gwyliau Tegid.
Mae croeso i unrhyw un sy’n rhydd i ddod rhwng 23-27 Ebrill, 2012. Nid oes prawf oedran!

Beth sydd yno i ddenu un i ddod?
Yr hyfrydwch hamddenol yn ardal brydferth Bryn-y-groes a’r Bala.
Yr hyfrydwch o gymdeithas felys â phobl yr Arglwydd.
Yr hyfrydwch o addoliad cynnes o gwmpas Gair Duw, ar ffurf oedfa bregethu yn y boreau ac addoliad mwy anffurfiol yn yr hwyr.

Mae’r Gwyliau yn gyfrwng yn llaw Duw i’n cadarnhau yn y ffydd, i gyfoethogi ein profiad ac i’n dwyn yn nes at yr Arglwydd Iesu Grist.
Ystyriwch felly, a dewch. Fe fyddwch ar eich ennill o ddod.

Rhaglen Gwyliau Tegid

Prif Siaradwr:
Parch. Edmund Owen

Cadeirydd:
Phylip Jones

Nos Lun

  • Cyrraedd
  • 6:00 y.h.    Swper
  • 7:30 y.h.    Pat Turner

Dydd Mawrth

  • 8:30 y.b. Brecwast
  • 10:00y.b. Oedfa – Edmund Owen
  • 12:00 y.p. Cinio
  • Prynhawn rhydd
  • 6:00 y.h.    Swper
  • 7:30 y.h.    Cyfarfod – John Pritchard

Dydd Mercher

  • 8:30 y.b.    Brecwast
  • 10:00 y.b. Oedfa – Edmund Owen
  • 12:00 y.p. Cinio
  • 1:00 y.p.    Gwibdaith
  • 6:30 y.h.    Swper
  • 7:30 y.h.    Cyfarfod – Cwmni Coleg y Bala

Dydd Iau

  • 8:30 y.b.    Brecwast
  • 10:00 y.b. Oedfa – Edmund Owen
  • 12:00 y.p. Cinio
  • Prynhawn rhydd
  • 6:00 y.h.    Swper
  • 7:30 y.h.    Cyfarfod – Phylip Jones

Bore Gwener

  • 8:30 y.b. Brecwast
  • 10:00 y.b. Oedfa – Edmund Owen
  • Adref

Prisiau Gwyliau Tegid

  • Wythnos: £155
  • Un diwrnod ac un noson: £41
  • Pryd bwyd: Cinio £6, Swper £8
  • Diwrnod: £22
  • (gan gynnwys 2 bryd bwyd a chyfraniad)
  • Cyfarfod a phaned: Rhodd wirfoddol
  • (awgrymwn rodd o £8 y dydd)