Rydym wrthi'n datblygu'r wefan ar hyn o bryd.
Cysylltwch â ni os ydych angen gwybodaeth bellach.

Mae gweinidogaeth amrywiol MEC yn ymestyn ar hyd a lled Cymru, ac ymhlith Cristnogion o bob oedran, ac isod ceir crynodeb o’r rhain:

(Cliciwch ar y lluniau i fynd i’r dudalen berthnasol)

Cynadleddau. Trefnir nifer o gynadleddau amrywiol gan MEC yn flynyddol. Nod y cynadleddau yw rhoi cymorth ac arweiniad i Gristnogion o bob cefndir.

Gwersylloedd ac Encilion. Mae dros 500 o blant a phobl ifanc yn mynychu’r gwersylloedd yn flynyddol. Yn ogystal â’r gwersylloedd trefnir encilion ar gyfer pobl o bob oed.

Gwasg Bryntirion. Gwasg Bryntirion yw adain gyhoeddi MEC, ac mae’n gyfrifol am gyhoeddi llyfrau Cymraeg a Saesneg, ynghyd â thri chylchgrawn, sef Y Cylchgrawn Efengylaidd, Llwybrau a’r Evangelical Magazine.

Efengylu. Mae gwreiddiau’r Mudiad yn ddwfn mewn gwaith efengylu. Trefnir ymgyrchoedd efengylu yn yr eisteddfod yn flynyddol ac yn y sioeau drwy waith y cerbyd efengylu. Yn ogystal â hyn cychwynnwyd y fenter newydd ‘Ymgyrch Cymru’ yn 2007.

Hyfforddiant. Mae’r Mudiad yn ymroddedig i ddatblygu adnoddau a gweithgareddau sy’n hybu llythrennedd Beiblaidd. Yn 2008 ail-lansiwyd y cwrs diwinyddol Cymraeg newydd.

Siopau Llyfrau. Mae deg o siopau llyfrau gan MEC, sy’n cynnal tystiolaeth i’r efengyl ac yn darparu llyfrau Cristnogol ac adnoddau Beiblaidd i blant ac oedolion. Yn ogystal ceir amrywiaeth o gardiau cyfarch, cerddoriaeth, meddalwedd, fideo a DVD, calendrau a chylchgronau.

Dyma agweddau eraill ar waith MEC:

  • Annog eglwysi i weddio dros waith Duw yng Nghymru.
  • Cydweithio gyda mudiadau Cristnogol eraill.
  • Annog gweithwyr Cristnogol llawn amser.
  • Cefnogi’r dystiolaeth Gristnogol o fewn ysgolion yng Nghymru.
  • Cynnig cefnogaeth ariannol i eglwysi trwy gyfrwng Ymddiriedolaeth MEC.