Mae gweinidogaeth amrywiol MEC yn ymestyn ar hyd a lled Cymru, ac ymhlith Cristnogion o bob oedran, ac isod ceir crynodeb o’r rhain (cliciwch ar y dolenni i gael mwy o wybodaeth):
+ Cynadleddau. Cynhelir Cynhadledd Flynyddol MEC yn Aberystwyth bob blwyddyn yn ystod trydedd wythnos mis Awst, gyda chynhadledd Saesneg gyfatebol yr wythnos flaenorol, hefyd yn Aberystwyth. Cynhelir cynadleddau eraill yn ystod y flwyddyn, yn cynnwys Encil Bryn-y-groes a Gwyliau Tegid.
+ Gwersylloedd ar gyfer ieuenctid. Daw cannoedd o blant i wersylloedd MEC bob blwyddyn, ac maent yn elwa o gyfuniad arbennig o hwyl a gweithgareddau, gwersi o’r Beibl, a chwmni ffrindiau o bob rhan o Gymru. Cynhelir dau wersyll Cymraeg yn ystod ail wythnos mis Awst: gwersyll i blant 10-13 oed yng Nghanolfan Gristnogol Llanmadoc, a gwersyll i blant 14-18 oed ym Mryn-y-groes, y Bala. Bydd cyfle hefyd i gael aduniad ac encil yn ystod y flwyddyn. Mae nifer o bobl ifanc wedi proffesu ffydd neu ail gysegru eu bywydau i Grist yn ystod y gwersylloedd ar hyd y blynyddoedd.
+ Gwasg Bryntirion. Gwasg Bryntirion yw adain gyhoeddi MEC, ac mae’n gyfrifol am gyhoeddi llyfrau Cymraeg a Saesneg, ynghyd â thri chylchgrawn, sef Y Cylchgrawn Efengylaidd, Llwybrau a’r Evangelical Magazine. Cyhoeddir hefyd nifer o adnoddau eraill defnyddiol megis Dewch i Ddysgu (taflenni ysgol Sul), Darganfod Cristnogaeth (cwrs i gyflwyno’r fydd Gristnogol) a nifer o dractiau a deunyddiau efengylu. Cyhoeddir nifer o grynoddisgiau a chasetiau hefyd.
+ Efengylu. Bydd MEC yn cynnal ymgyrchoedd efengylu ar y cyd ag eglwysi lleol a chyrff Cristnogol eraill. Mae’r gwaith yn cynnwys tim efengylu a stondin lyfrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd. Ers 2004 defnyddiwyd cerbyd efengylu er mwyn cynnal tystiolaeth mewn ffeiriau, sioeau amaethyddol a gwyliau diwylliannol. Trefnir y gwaith hwn gan weithgor yn ardal Aberystwyth. Yn ddiweddar daeth ecrbyd arall yn rhan o waith yn ardal Bangor yn y gogledd.
+ Hyfforddiant. Mae MEC yn ymroddedig i ddatblygu adnoddau a gweithgareddau sy’n hybu llythrennedd Beiblaidd. Yn ogystal a’r ddau gwrs diwinyddol a’r cyswllt agos a choleg diwinyddol Bryntirion (WEST) fe drefnir cynadleddau hyfforddi o dro i dro. Dros y blynyddoedd elwodd nifer o bobl trwy ddilyn Cwrs Diwinyddol Cymraeg rhan amser MEC. Cynlluniwyd y cwrs ar gyfer pobl sydd mewn gwaith llawn amser ond sydd am ehangu eu gwybodaeth ddiwinyddol er mwyn cyfrannu i fywyd eu heglwysi.
+ Siopau Llyfrau. Mae wyth siop lyfrau gan MEC, sy’n cynnal tystiolaeth i’r efengyl ac yn darparu llyfrau Cristnogol ac adnoddau Beiblaidd i blant ac oedolion. Yn ogystal ceir amrywiaeth o gardiau cyfarch, cerddoriaeth, meddalwedd, fideo a DVD, calendrau a chylchgronau.
+ Darpariaeth ar gyfer gweinidogion. Mae MEC yn ymroddedig i gynnal gweinidogion drwy gynhyrchu adnoddau, rhedeg cynadleddau a darparu cyfleoedd i rannu a chymdeithasu. Bydd gweinidogion efengylaidd yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn gweddio, astudio’r Beibl, ac annog ei gilydd. Bydd y cymdeithasau hyn yn cyfarfod yn fisol mewn sawl ardal yng Nghymru.
+ Hybu gweddi. Cyhoeddir llythyr gweddi bob dau fis gan y Mudiad sy’n rhannu newyddion a phwyntiau gweddi.
+ Canolfan Breswyl. Bryn-y-groes, y Bala, yw canolfan breswyl MEC. Fe’i defnyddir gan y Mudiad ei hun ar gyfer gwersylloedd ieuenctid, cynadleddau a chyfarfodydd amrywiol. Mae croeso hefyd i grwpiau eraill megis Undebau Cristnogol ac eglwysi ddefnyddio Bryn-y-groes fel canolfan i’w gweithgareddau. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â rheolwr y ganolfan, Canolfan Gristnogol Bryn-y-groes, Y Bala, Gwynedd, LL23 7YE. Ffôn: (01678) 520752.
Dyma agweddau eraill ar waith MEC:
- Cydweithio gyda mudiadau Cristnogol eraill.
- Annog gweithwyr Cristnogol llawn amser.
- Cefnogi’r dystiolaeth Gristnogol o fewn ysgolion yng Nghymru.
- Cynnig cefnogaeth ariannol i eglwysi trwy gyfrwng Ymddiriedolaeth MEC.
