Llwybrau

Beth yw pwrpas llwybrau?

Mae pawb yn ceisio dweud wrthym sut i fyw ein bywyd!

Does dim ond rhaid i ni edrych ar y teledu am ychydig funudau i glywed na fydd ein bywydau yn gyflawn heb fwyta’r iogwrt yma neu fynd ar wyliau fan draw. A chawn ni fyth hapusrwydd llawn nes ein bod wedi yfed rhyw ddiod arbennig neu wisgo’r jeans yna.

Mae hyd yn oed y bobl o’n cwmpas, ac yn arbennig ein ffrindiau, yn cael dylanwad mawr ar y ffordd yr ydym yn byw a meddwl.

Gyda’r holl ddylanwadau yma yn ein bywyd, sut fedrwn ni wybod pa lwybr i gymryd i gael y bywyd gorau posibl?

Mae’r Salmydd yn dweud:

‘Y mae dy air yn llusern i’m traed ac yn olau i’m llwybr’.

Mae gennym gwmpawd rhyfeddol i’n bywyd fel Cristnogion…

Gobeithiwn y bydd y rhifyn hwn o llwybrau yn gymorth i ti, ac y byddi yn mwynhau ei ddarllen.

- Golygyddol Llwybrau Mehefin 2008

Yn gryno, dyna yw pwrpas llwybrau. Cafodd y cylchgrawn ei ddechrau er mwyn bod o gymorth i ieuenctid Cymru. Ein gobaith yw bod yr erthyglau a’r darlleniadau yn gyfoes, yn Feiblaidd gywir ac yn berthnasol i bobl ifanc heddiw. Mae’n gylchgrawn onest sy’n ceisio delio gyda ‘issues’ go iawn drwy edrych ar Iesu Grist, ei fywyd, ei ddysgeidiaeth, ei farwolaeth a’i atgyfodiad.

Pwy sy’n cynhyrchu llwybrau?

Caiff llwybrau ei gynhyrchu gan grwp o Gristnogion sydd un eu 20au a 30au o dan ymbarel Mudiad Efengylaidd Cymru.

Beth yw cynnwys llwybrau? (am enghreifftiau i lawr lwytho cliciwch yma)

Dyma enghreifftiau i chi:

  • Cwestiynau anodd
  • Darlleniadau Beiblaidd
  • Adolygiadau
  • Newyddion
  • Ateb cwestiynau
  • Delio gyda phroblemau
  • Erthyglau ymarferol
  • Hoff adnodau
  • Hanesion Cristnogion heddiw
  • Hanes Cristnogaeth
  • Edrych dramor

Fedrwch chi ddefnyddio llwybrau? (I danysgrifio cliciwch yma)

Nid yn unig ieuenctid sy’n prynu llwybrau. Mae’r cylchgrawn bellach yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion, clybiau ieuenctid ac eglwysi drwy Gymru. Beth am danysgrifio i dderbyn copi (neu gopïau):

  • a’u rhoi i’r ysgol leol?
  • Mynd a chopi i ystafell aros y feddygfa leol?
  • Prynu ar gyfer y clwb yn y capel?
  • Prynu i ffrind?

Dyddiadau Cyhoeddi Llwybrau 2011

  • Cyf 3 rhif 1 – Pasg – Ebrill y 1af
  • Cyf 3 rhif 2 – Haf – Gorffennaf y 1af
  • Cyf 3 rhif 3 – Tymor Newydd – Medi y 1af
  • Cyf 3 rhif 4 – Nadolig – Rhagyfr y 1af

**Mae MEC yn y broses o greu gwefan newydd ar gyfer llwybrau ar hyn o bryd **

Am fwy o fanylion cysylltwch a’r golygydd – Steffan Job