Cyhoeddiadau Diweddaraf

Rhai o’n cyhoeddiadau Cymraeg diweddaraf:

Porth yr Aur – Cofio J Elwyn Davies

  • Golygwyd gan John Emyr
  • Dyddiad Cyhoeddi – 1 Mawrth, 2011
  • Pris – £10.95
  • ISBN – 978-1-85049-241-2
  • Gwybodaeth Ychwanegol – Yn weinidog yr Efengyl ac Ysgrifennydd Mudiad Efengylaidd Cymru am bymtheng mlynedd ar hugain, bu John Elwyn Davies (1925 – 2007) yn was ffyddlon i Iesu Grist ac yn gyfaill triw i lawer. Yn ogystal â Rhagymadrodd addysgiadol ac erthyglau gwerthfawrogol gan rai a’i hadnabu, mae Porth yr Aur yn cynnwys enghreifftiau o waith Elwyn Davies ei hun, rhai ohonynt yn ymddangos rhwng dau glawr am y tro cyntaf. Dyma gyfrol arbennig sy’n gymorth i ni werthfawrogi  bywyd a gwaith gwas i’w Arglwydd a chymwynaswr i’w genedl.

Joseff

  • Sulwyn Jones
  • £5.95
  • ISBN – 9781850492337
  • Ar gael

Gwybodaeth Ychwanegol – Mae hanes Joseff gyda’r mwyaf gwefreiddiol yn y Beibl: yn gaethwas mewn gwlad estron yn ddwy ar bymtheg, mewn carchar ar gam am flynyddoedd yn ei ugeiniau, ac yna, yn ddeg ar hugain, cael ei ryddhau a’i wneud yn llywodraethwr yr Aifft. Ond hefyd mae’n stori am Dduw ar waith drwy’r helbul i gyd, yn ei ras a’i ragluniaeth ryfeddol yn darparu ar gyfer dyfodol ei bobl. Mae?r awdur o fewn pedwar anerchiad yn cyfleu?r stori ddeublyg hon ac yn cymhwyso?r neges at ein byw a?n bod fel credinwyr heddiw.

Calendr Llewyrch i’m llwybr 2011

  • £3.00
  • Ar gael
  • Gwybodaeth ychwanegol – Calendr lliw gydag golygfeudd o Gymru ac adnod i bob dydd.

Croes fy Arglwydd

  • Gwynn Williams
  • Pris: £6.50
  • ISBN: 978 185049 225 2
  • Ar gael
  • Gwybodaeth Ychwanegol – Ers degawdau bellach bu troi cefn gan lawer, i raddau mwy neu lai, ar eglurhad y Beibl am groes Crist, gan ei disbyddu o ganlyniad o’i hystyr iawnol ac achubol. Nid oes dim pwysicach, felly, na chael golwg eto ar y dystiolaeth feiblaidd ac apostolaidd am y groes, canolbwynt yr efengyl, unig ffordd gwaredigaeth a phrif darddell moliant a llawenydd y Cristion. O ddarllen yr anerchiadau a geir yn y gyfrol hon, cawn achos o’r newydd i ymuno â’r emynydd, pan ddywed: ‘Yng nghroes Crist y gorfoleddaf’!

Darganfod Cristnogaeth: Llawlyfr Astudio

  • Cyfieithiad Cymraeg gan Erin Myrddin
  • Pris: i’w gadarnhau
  • ISBN: 978 185049 228 3
  • Ar gael
  • Gwybodaeth Ychwanegol – Yn ystod yr hydref cyhoeddir Darganfod Cristnogaeth: Llawlyfr Astudio, cyfieithiad newydd gan Erin Myrddin. Bydd yr adnodd hwn yn hynod ddefnyddiol i eglwysi ac undebau Cristnogol sy’n cynnal y cwrs ‘Darganfod Cristnogaeth’. Dyma’r tro cyntaf i adnoddau’r cwrs gael eu cyhoeddi yn y Gymraeg, a’r bwriad yw darparu mwy o ddeunydd ar y wefan yn fuan.

Y Ffordd Gadarn: ysgrifau am fyd llên a chrefydd gan R. Geraint Gruffydd

  • Golygwyd gan E. Wyn James
  • Pris: £14.95
  • ISBN: 978 185049 230 6
  • Ar gael
  • Gwybodaeth Ychwanegol – Yr Athro R. Geraint Gruffydd yw un o ffigyrau amlycaf bywyd diwylliannol Cymru heddiw. Yn y gyfrol hon ceir detholiad helaeth o’i ysgrifau poblogaidd.