Bu’r gair ysgrifenedig yn rhan bwysig o waith y Mudiad Efengylaidd o’r cychwyn ac mae Gwasg Bryntirion, adain gyhoeddi MEC, yn cyhoeddi llyfrau Cymraeg a Saesneg ynghyd â thri chylchgrawn: Y Cylchgrawn Efengylaidd, The Evangelical Magazine, a Llwybrau.
Mae’r wasg yn mynd drwy nifer o newidiadau ar hyn o bryd. Am fwy o wybodaeth am y wasg cysylltwch gyda Steffan Job – 01248 351417, steffanjob@mudiad-efengylaidd.org
Gellir edrych ar fanylion ein cyfrolau diweddaraf yma.
Gellir edrych ar fanylion y cynllun ‘Darganfod Cristnogaeth’ (cyfieithiad o gwrs efengylu Christianity Explored) yma.
Gellir edrych ar fanylion ‘Dewch i Ddysgu’ (ein taflenni gwaith ar gyfer Ysgol Sul) yma.
Mae modd hefyd i archebu nifer o’n llyfrau ar www.gwales.com neu drwy’r swyddfa yn uniongyrchol.
Caiff ein llyfrau Saesneg eu dosbarthu gan Evangelical Press, Darlington, a cheir manylion llawn ein llyfrau ar eu gwefan: www.epbooks.org