Bryn-y-groes…
Yw ein Canolfan Breswyl Cristnogol sydd wedi ei lleoli yn harddwch naturiol Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r ganolfan i’w gweld ar gyrion tref hynafol Y Bala wrth ochr llyn Tegid, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru.
Mae’r ganolfan yn cynnig llety cyfforddus ac adnoddau cynhwysfawr o fewn digonedd o dir ar gyfer Encilion Eglwysig, Cynadleddau, Grwpiau Myfyrwyr, Grwpiau Ieuenctid, Gwersylloedd, Cyrsiau Ysgolion …. a llawer mwy!
Rhai o’n hadnoddau:
- Ystafell gyfarfod fawr.
- Dwy ystafell lai ar gyfer ymlacio.
- Diodydd drwy’r dydd.
- Neuadd fawr ar gyfer chwaraeon (sy’n cynnwys tenis-bwrdd, pwl a phêl-droed bwrdd). Gall y neuadd fawr yma gael eu defnyddio ar gyfer nifer o weithgareddau.
- Cae pêl-droed.
- Cwrt aml bwrpas caled.
- Cwrt Pêl-foli a llain pytio golff.
- Gerddi a choedlannau.
- Ceir Canolfan Chwaraeon gyda phwll nofio dros y ffordd i Fryn-y-groes.
Bryn-y-groes…
Mae’n cynnig llety llawn ar gyfer 25 i 70 o bobl gydag amrywiaeth o ystafelloedd gwely sydd â sinc ymolchi ym mhob un ohonynt. Daw pob gwely gyda blanced, cobenydd a chorsen wlân Cymreig. Rhaid i westeion ddod a chas cobenydd, lliain a bagiau cysgu eu hunain.
Gellir cael mwy o wybodaeth drwy:
Gysylltu â ni drwy’r wefan hon drwy’r adran cysylltu â ni (cofiwch newid y ddewislen i Bryn-y-groes) neu gysylltu â ni ar y manylion isod:
Rheolwyr:
- Dave and Pat Wilmot
Ein Cyfeiriad:
- Bryn-y-groes
- Pensarn Road, Bala,
- Gwynedd LL23 7YE.
Rhif Ffôn:
- 01678 520752
E-bost:
- conferencecentre@emw.org.uk