Hanes

Er na fabwysiadwyd y teitl Mudiad Efengylaidd Cymru yn ffurfiol hyd 1955, gellir olrhain dechreuadau’r Mudiad yn ôl i’r 1940au hwyr. Yn ystod y blynyddoedd hynny bu adfywiad ysbrydol mewn sawl ardal yng Nghymru, ac ymhlith myfyrwyr yng ngholegau Prifysgol Cymru. Cynhaliwyd ymgyrchoedd efengylu, ac yn 1948 cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Y Cylchgrawn Efengylaidd. Yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1949 gwelwyd pabell yn dwyn enw’r Cylchgrawn, ac yn ystod y blynyddoedd nesaf ehangwyd y gweithgarwch hwn. Cynhaliwyd Cynhadledd Y Cylchgrawn Efengylaidd  am y tro cyntaf yn 1952, ac yn fuan wedi hynny trefnwyd gwersylloedd i blant. (Gweler Digwyddiadau.) Erbyn 1955 gwelwyd fod angen trefn fwy sefydlog i gynnal y gweithgarwch hwn. Cafwyd swyddfa i Fudiad Efengylaidd Cymru yn y Bala, a phenodwyd y Parch. J. Elwyn Davies yn Ysgrifennydd Cyffredinol, gyda phwyllgorau i ofalu am y gwaith. Erbyn hynny datblygwyd gweithgarwch Saesneg ochr yn ochr â’r gwaith Cymraeg, sefyllfa sy’n parhau hyd heddiw. Yn 1962 symudodd y swyddfa o’r Bala i Port Talbot, ac yna i Fryntirion gerllaw Pen-y-bont ar Ogwr yn 1972. Ers y 1970au bu Gwasg Bryntirion, (adain gyhoeddiadau MEC) yn cyhoeddi llyfrau Cymraeg a Saesneg yn gyson.

Am ymdriniaeth lawn o hanes y Mudiad, gweler Noel Gibbard, Cofio Hanner Canrif: Hanes Mudiad Efengylaidd Cymru 1948-98 (Pen-y-bont ar Ogwr, 2000).