Rydym wrthi'n datblygu'r wefan ar hyn o bryd.
Cysylltwch â ni os ydych angen gwybodaeth bellach.

Beth yw Mudiad Efengylaidd Cymru?

Cymdeithas o unigolion ac eglwysi yw Mudiad Efengylaidd Cymru (MEC), sy’n derbyn y Beibl fel Gair Duw, ac yn ei dderbyn fel sylfaen i holl faterion ffydd a bywyd; ac yn dibynnu’n llwyr ar yr Arglwydd Iesu Grist, ei fywyd, ei farwolaeth a’i atgyfodiad.

Mae gwaith MEC yn ymestyn trwy bob rhan o Gymru (a thu hwnt hyd yn oed). Mae ein Cyfarwyddwr Bugeiliol yn teithio’n eang er mwyn cynnig cefnogaeth, anogaeth a chyngor i Gristnogion unigol ac eglwysi. Dyma rai meysydd o genhadaeth y Mudiad.

Gwersylloedd

Daw cannoedd o blant i wersylloedd MEC bob blwyddyn, ac maent yn elwa o gyfuniad arbennig o hwyl a gweithgareddau, gwersi o’r Beibl, a chwmni ffrindiau o bob rhan o Gymru. Cynhelir dau wersyll Cymraeg yn ystod ail wythnos mis Awst: gwersyll i blant 10-13 oed yng Nghanolfan Gristnogol Quinta ger Croesoswallt, a gwersyll i blant 14-18 oed ym Mryn-y-groes, y Bala. Bydd cyfle hefyd i gael sawl aduniad yn ystod y flwyddyn. Mae nifer o bobl ifanc wedi proffesu ffydd neu ail gysegru eu bywydau i Grist yn ystod y gwersylloedd ar hyd y blynyddoedd.

Cyhoeddi

Cyhoeddir nifer o lyfrau Cymraeg a Saesneg gan adain gyhoeddi MEC, sef Gwasg Bryntirion. Mae MEC hefyd yn cyhoeddi dau gylchgrawn, sef Y Cylchgrawn Efengylaidd a’r Evangelical Magazine, ac yn cynhyrchu tractau, crynoddisgiau a chasetiau. Mae naw o siopau llyfrau gan y Mudiad, sy’n cynnal tystiolaeth ddyddiol i’r efengyl ac yn darparu adnoddau gwerthfawr fel llyfrau a defnyddiau ar gyfer Ysgolion Sul.

Efengylu

Bydd MEC yn cynnal ymgyrchoedd efengylu ar y cyd ag eglwysi lleol a chyrff Cristnogol eraill. Mae’r gwaith yn cynnwys tim efengylu a stondin lyfrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd. Ers 2004 defnyddiwyd cerbyd efengylu er mwyn cynnal tystiolaeth mewn ffeiriau, sioeau amaethyddol a gwyliau diwylliannol. Trefnir y gwaith hwn gan weithgor yn ardal Aberystwyth.

Cynadleddau

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol MEC yn Aberystwyth bob blwyddyn yn ystod trydedd wythnos mis Awst, gyda chynhadledd Saesneg gyfatebol yr wythnos flaenorol, hefyd yn Aberystwyth. Cynhelir cynadleddau eraill yn ystod y flwyddyn, yn cynnwys Encil Bryn-y-groes, Gwyliau Tegid a Chamu ‘Mlaen.

Hyfforddiant Diwinyddol

Dros y blynyddoedd elwodd nifer o bobl trwy ddilyn Cwrs Diwinyddol rhan amser MEC. Cynlluniwyd y cwrs ar gyfer dynion mewn gwaith llawn amser sy’n teimlo galwad i’r weinidogaeth, ac i eraill sydd am ehangu eu gwybodaeth ddiwinyddol er mwyn cyfrannu i fywyd eu heglwysi.

Cymdeithasau Gweinidogion

Bydd gweinidogion efengylaidd yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn gweddio, astudio’r Beibl, ac annog ei gilydd. Bydd y cymdeithasau hyn yn cyfarfod yn fisol mewn sawl ardal yng Nghymru, a chynhelir cynhadledd breswyl y gweinidogion Cymraeg ym Mryn-y-groes bob mis Tachwedd.

Canolfan Gristnogol Bryn-y-groes

Bryn-y-groes, y Bala, yw canolfan breswyl MEC. Fe’i defnyddir gan y Mudiad ei hun ar gyfer gwersylloedd ieuenctid, cynadleddau a chyfarfodydd amrywiol. Mae croeso hefyd i grwpiau eraill megis Undebau Cristnogol ac eglwysi ddefnyddio Bryn-y-groes fel canolfan i’w gweithgareddau. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â rheolwr y ganolfan, Canolfan Gristnogol Bryn-y-groes, Y Bala, Gwynedd, LL23 7YE. Ffôn: (01678) 520752.

Sut mae’r Mudiad yn cael ei ariannu?

Gwneir trefniadau ariannol MEC gydag ymddireidaeth y bydd Duw yn darparu’r adnoddau angenrheidiol ar gyfer cyflawni ei waith.

Ceisir sicrhau fod cynifer o’r gweithgareddau â phosibl yn hunan gynhaliol, ond mae rhan bwysig o genhadaeth MEC yn dibynnu ar gyfraniadau hael Cristnogion unigol ac eglwysi. Y rhoddion hyn sy’n galluogi MEC i barhau i gyhoeddi’r efengyl. Gall y rhai sy’n talu treth incwm gynyddu eu rhoddion trwy gyfrwng Rhodd Gymorth.

Mae MEC yn hynod ddiolchgar i’r holl bobl sy’n ymateb i’r angen trwy gyfraniadau ariannol neu trwy waith gwirfoddol.

Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am sut y gall MEC eich cefnogi fel unigolyn neu fel eglwys, neu os hoffech gefnogi ein cenhadaeth a’n gweinidogaeth, mae croeso i chi gysylltu â’r swyddfa ym Mryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr: e-bost