Cytunwyd ar y blaenoriaethau canlynol gan MEC yn 2007. Mae’r blaenoriaethau yn adlewyrchu dau beth sy’n greiddiol i’r hyn yr ydym yn credu: (1) Credwn fod Duw yn ein galw i weinidogaethu a gwasanaethu o fewn Cymru mewn ffyrdd arbennig. A (2) credwn fod anghenion Cymru yn llawer mwy nag y gall unrhyw ymdrech ddynol na gwaith MEC ei ddiwallu a’i ateb. Mae’r blaenoriaethau felly yn rhannu’n ddwy ran: ein dyheadau (sef ein gobaith a’n gweddïau); a’r camau gweithredol (gyda chymorth Duw gobeithiwn y bydd dilyn y camau yma yn ein galluogi i ddechrau i lawr y llwybr o wireddu’n gobeithion).
Credwn fod Duw yn ein galw i flaenoriaethu:
Efengylu a Phlannu Eglwysi
Cynyddu’r awydd a chynnig cyfleoedd ar gyfer diwygio a phlannu eglwysi, efengylu a gweddi yn genedlaethol
Dyheadau:
- Gweld pob eglwys Feibl-ganolog yng Nghymru yn weithgar i ehangu gafael yr efengyl yng Nghymru.
- Pob cymuned yng Nghymru gyda phoblogaeth o fwy na 1,000 i gael eglwys lle pregethir yr efengyl yn ei hiaith gyntaf.
- Pob person yng Nghymru i gael cyfle realistig o glywed yr efengyl fel unigolyn ac yn ei iaith gyntaf.
- Pob Cristion yng Nghymru i fod yn weithgar a gweddigar dros efengylu ar hyd a lled Cymru.
Camau:
- Dihuno Cristnogion i anghenion ysbrydol y genedl gyfan.
- Ysgogi eglwysi i fod yn ddychmygus ac effeithiol wrth efengylu.
- Annog gweddi dros ddiwygiad cenedlaethol.
- Cynnig pobl, timoedd ac adnoddau i bob eglwys* sy’n dymuno efengylu.
Rhwydweithio a Chydweithio
Darparu cyfleoedd i gydweithio ystyrlon a chymdeithas rhwng pob gweinidog efengylaidd*, eglwysi Beibl-ganolog a Christnogion unigol
Dyheadau
- Pob eglwys Feibl-ganolog yng Nghymru i fod yn weddigar ymwybodol o anghenion ac yn cynnig anogaeth i weinidogaethau’r efengyl trwy Gymru gyfan.
- Pob eglwys o’r fath i gydweithio yn rheolaidd gydag eglwysi Beibl-ganolog eraill.
- Pob gweinidog awyddus dros efengylu* yng Nghymru i berthyn i gymdeithas gweinidogion fywiog a pherthnasol.
- Pob Cristion yng Nghymru i gael cymdeithas ystyrlon a chyson gyda Christnogion o eglwysi eraill.
Camau:
- Cryfhau gweinidogaethau sy’n bodoli eisoes megis cynadleddau, gwersylloedd, cylchgronau, gwefan a llythyron gweddi er mwyn hyrwyddo’r dyheadau hyn yn well.
- Hwyluso cymdeithas ddyfnach a phartneriaethau ystyrlon rhwng eglwysi.
- Sicrhau bod cymdeithasau gweinidogion (fraternals) yn effeithiol ac ystyrlon ac yn cwrdd ag anghenion dynion yn y weinidogaeth.
- Cydweithio fel bo’n addas gyda sefydliadau ac eglwysi eraill sy’n Feibl-ganolog, gan gynnwys darparu ‘llais cenedlaethol’ i’r cyfryngau.
Llythrennedd Beiblaidd a Chreu Disgyblion
Sicrhau bod adnoddau Beiblaidd perthnasol, hyfforddiant a chyfle i greu a hybu disgyblion* ar gael ar raddfa eang
Dyheadau
- Pob Cristion yng Nghymru i fod o fewn cyrraedd i adnoddau amrywiol o ansawdd da ynghyd â dysgeidiaeth yn ei iaith ei hun.
- Pob Cristion yng Nghymru o bob oed i wybod a charu’r Beibl, gwybod ei nerth, gwybod sut i’w ddefnyddio, gan gynorthwyo ei hunan ac eraill i fyw yn ôl y Beibl.
- Pob Cristion yng Nghymru i allu cyrraedd yn hawdd stondin llyfrau Cristnogol sy’n darparu llenyddiaeth ddibynadwy, berthnasol ac adnoddau eraill.
- Pob Cristion yng Nghymru yn gwrando ar bregethu bob wythnos sy’n esboniadol gywir a swmpus* o ran dysgeidiaeth, gyda chymwysiadau perthnasol ac awdurdod goruwchnaturiol.
- Pob Cristion yng Nghymru â chynneddf beirniadu ddiwinyddol, yn deillio o ddysgeidiaeth gan fugeiliaid diwinyddol sy’n adnabod a deall Cymru.
- Pawb yng Nghymru i fod â dealltwriaeth o gynnwys a neges y Beibl.
Camau:
- Annog, hyfforddi a rhoi cyfle i ysgrifenwyr newydd.
- Buddsoddi mewn adnoddau Cymraeg sy’n gyfoes a Beiblaidd.
- Sicrhau bod gan y siopau llyfrau gwell gweinidogaeth i Gristnogion, eu bod yn well fel busnesau, ac yn well canolfannau i ledaenu’r efengyl.
- Annog eglwysi i sefydlu stondinau llyfrau.
- Datblygu’r defnydd o’r we er mwyn rhannu yn rhad ddeunyddiau o ansawdd da.
Hyfforddi ac Arwain
Cynnig anogaeth a hyfforddiant i arweinwyr eglwysig ac arweinwyr y dyfodol
Dyheadau
- Pob eglwys yng Nghymru yn annog yn ddychmygus a gweithgar ac yn hyrwyddo dynion a merched ifainc i ddatblygu eu doniau a deall galwad Duw.
- Pob gweinidog yng Nghymru i allu cyrraedd a chael cyfle i dderbyn hyfforddiant parhaus ar hyd cyfnod ei weinidogaeth.
- Pob eglwys yng Nghymru o dan arweiniad ysbrydol a gweithgar*.
- Pob eglwys yng Nghymru yn sicrhau bod gwragedd h?n ar gael i hyfforddi ac arwain gwragedd iau.
- Pob Cristion ifanc yng Nghymru i allu cyrraedd gr?p ieuenctid rhyng-eglwysig a fydd yn ei annog gan helpu i’w ddatblygu trwy ddysgu cyson.
Camau:
- Gwella ein partneriaeth gyda Cholegau Beiblaidd ac eraill sy’n cynnig hyfforddiant.
- Ehangu gweinidogaethau hyfforddi sy’n bodoli eisoes fel yr Ysgolion Sadwrn Beiblaidd a’r Cwrs Hyfforddi Diwinyddol.
- Datblygu a chreu cyfleoedd cyson i weinidogion a phregethwyr eraill i barhau â hyfforddiant.
- Cydweithio gyda gweinidogion ac eglwysi i annog mentora a hyfforddi o ddynion a merched ifanc.
- Rhannu adnoddau a phrofiad i hyrwyddo sefydlu mwy o gynadleddau gwragedd a grwpiau ieuenctid rhyng-eglwysig.