Gyda symleiddio  cynllun Rhodd Gymorth daeth yn hawdd i unigolion i gynyddu rhoddion unigol neu gyson i’r Mudiad, yn ôl cyfradd y dreth incwm. Ar hyn o bryd, golyga hyn fod rhodd o £1 yng nghynllun Gift Aid yn galluogi MEC i gynyddu rhodd o 28c, heb unrhyw gost ychwanegol i’r rhoddwr.

Bendithiwyd y Mudiad yn y gorffennol gan haelioni pobl sydd wedi gwerthfawrogi ymwneud yr Arglywdd â’r Mudiad, ac sydd wedi gadael arian tuag at y gwaith. Os hoffech drefnu hyn, byddai eich cyfreithiwr yn gallu eich cynorthwyo. Mae croeso hefyd i chi gysylltu â Mr. Hugh Jenkins, Rheolwr Cyllid MEC, a fydd yn falch o drafod hyn neu unrhyw faterion eraill yn ymwneud â chyllid y Mudiad.