Ariannu

Gweinyddir cyllid MEC ar y sail y bydd Duw yn darparu’r adnoddau angenrheidiol  i gwblhau gwaith a ymgymerir ar ei alwad Ef. Gweddio dros waith y Mudiad yw’r peth pwysicaf y gellwch ei wneud.

Yn rhagluniaeth Duw, noddir MEC trwy ffioedd a godir am weithgareddau a gwasanaethau, yn cynnwys gwersylloedd, cynadleddau a llyfrau, a thrwy roddion a dderbynnir oddi wrth unigolion ac eglwysi sydd yn ymroddedig i amddiffyn y gwirionedd Beiblaidd a duwioldeb.

Cedwir y ffioedd hyn i’r isafswm, er mwyn ceisio sicrhau mynediad i wasanaeth y Mudiad, i bawb sy’n dymuno hynny. Er hynny mae’n rhaid i’r ffioedd fod yn ddigon uchel i sicrhau na fydd MEC yn gwneud colled ariannol trwy gynnal y gwasanaethau hyn.

Bu rhoddion hael a ffyddlon nifer o unigolion ac eglwysi yn allweddol i waith MEC o’r cychwyn, yn enwedig y gwaith o efengylu na fyddai’n gallu digwydd fel arall.

Ceisir sicrhau fod cynifer o’r gweithgareddau â phosibl yn hunan gynhaliol, ond mae rhan bwysig o genhadaeth MEC yn dibynnu ar gyfraniadau hael Cristnogion unigol ac eglwysi. Y rhoddion hyn sy’n galluogi MEC i barhau i gyhoeddi’r efengyl. Gall y rhai sy’n talu treth incwm gynyddu eu rhoddion trwy gyfrwng Rhodd Gymorth.

Mae MEC yn hynod ddiolchgar i’r holl bobl sy’n ymateb i’r angen trwy gyfraniadau ariannol neu trwy waith gwirfoddol.