Mae Mudiad Efengylaidd Cymru yn elusen gofrestredig, a’i nod yw cyflawni’r amcanion a nodir isod. Mae MEC yn cynnal gwersylloedd a chynadleddau amrywiol, ac yn cyhoeddi llyfrau a chylchgronau. Gwerthir llyfrau Gwasg Bryntirion a llyfrau Cristnogol eraill gan siopau’r Mudiad.
Mae’r Mudiad yn ceisio cefnogi eglwysi a Christnogion unigol ar draws Cymru. Cymdeithas o eglwysi ac unigolion sy’n cytuno â’r Datganiad Credo Athrawiaethol yw’r Mudiad.
Daeth y Mudiad i fodolaeth, trwy ragluniaeth Duw, er mwyn gwasanaethu siaradwyr Cymraeg a Saesneg yng Nghymru, ac yng ngoleuni hyn rhoddir lle cyfartal i’r ddwy iaith wrth ddilyn yr amcanion canlynol:
- Hyrwyddo tystiolaeth ffyddlon a chywir i wirioneddau sylfaenol y ffydd Gristnogol, ac undod ysbrydol y rhai sy’n ei harddel (gweler y Datganiad Credo Athrawiaethol am amlinelliad o’r gwirioneddau sylfaenol hyn).
- Dwyn eraill i adnabyddiaeth bersonol o’r Arglwydd Iesu Grist, a’u hannog i fyw bywyd duwiol.
- Meithrin efengylu, profiad Cristnogol a baich dros ddiwygiad.
- Darparu modd i eglwysi efengylaidd, cynulliadau a Christnogion unigol i uno yn eu tystiolaeth a’u cymdeithas.
- Ffurfio a bugeilio cynulliadau efengylaidd.
- Cyhoeddi, dosbarthu a gwerthu llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg sy’n gyson â Datganiad Credo Athrawiaethol y Mudiad; ac agor a chynnal siopau (ynghyd â dulliau eraill o ddosbarthu llenyddiaeth) yn ôl yr angen.
- Darparu cyngor a chymorth i weithwyr Cristnogol sy’n derbyn Datganiad Credo Athrawiaethol y Mudiad.
- Darparu hyfforddiant diwinyddol i’r rhai sy’n dymuno gwasanaethu o fewn eu heglwysi neu sy’n cael eu galw i weinidogaeth amser llawn.
