Adroddiad Blynyddol 2005 – 2006

Gwelwyd nifer o newidiadau arwyddocaol yn ystod y flwyddyn olaf. Ers mis Ionawr 2003 mae’r Mudiad wedi gwneud colled sylweddol bob blwyddyn. Er mwyn ymateb i hyn cymerwyd camau hanfodol ond anodd er mwyn lleihau yn sylweddol ein colled wrth weithredu. Yn arbennig llwyddwyd i leihau dros £23,000 o golled y siopau llyfrau.  Mae’r camau a wnaed yn cynnwys:

  • parhau gyda’r polisiau a sicrhaodd bod y Wasg yn gwneud elw net yn ystod y flwyddyn ariannol olaf
  • ad-drefnu ac ailwampio staffio ar draws y mudiad (gwelir yr effeithiau llawn yn yr adroddiad y flwyddyn nesaf)
  • ceisio ffyrdd mwy cyson o osod pris ar ein gwahanol weinidogaethau
  • gwella elw ein siopau
  • apwyntio Ysgrifennydd Cyffredinol newydd (o fis Mawrth 2006) i barhau ac ymestyn y prosesau hyn.

Nid heb boen a her y digwyddodd y newidiadau hyn. Diolchwn i’n holl staff am eu teyrngarwch yn ystod y cyfnod hwn o newid mawr. Cofnodwn yma ein diolch a’n gwerthfawrogiad i bob un, am amryw o resymau gwahanol, sydd wedi gadael gwaith y Mudiad yn ystod y deuddeg mis olaf; yn benodol Manon Lloyd-Jones a Nigel Irwin. Bu manon yn gwneud tipyn o waith gweinuddu i waith y Mudiad a chysodr i’r Wasg. Bu Nigel Irwin yn gyfrifol am lawer agwedd bwysig o’r gwaith dros nifer o flynyddoedd. Yn ychwanegol diolchwn i Hywel Meredydd am ei wasanaeth ymroddedig, yn arbennig ar ochr Gymraeg y gwaith. Gwelwyd Jill Richards a Sue Birt yn ymddeol o’r swyddfa a siop lyfrau Bryntirion gyda chyfanswm o dros 40 mlynedd yn y gwaith. Diolchwn o galon i’r Arglwydd am y rhai a enwir yma. Gweddïwn am fendith yr Arglwydd arnynt wrth iddynt barhau i’w wasanaethu Ef.

Ymunodd ein Hysgrifennydd Cyffredinol newydd â’r Mudiad ym mis Mawrth 2006. Mae ef yn adnewyddu ein gweledigaeth. Mae wrthi yn ceisio dod i weld yr hyn a roddodd yr Arglwydd ar galon yr holl rai sy’n gwasanaethu ar bwyllgorau a’r rhai sy’n arwain y Mudiad. Yn barod nodwyd chwe neu saith maes datblygu a gweithredu. Ymhlith y rhain mae efengylu, sefydlu eglwysi, gweddi, hyfforddi a gwybodaeth o’r Beibl. Ymunwch â ni wrth i ni geisio ewyllys Duw ar gyfer ei bobl yng Nghymru.

Siopau Llyfrau

Ar y cyfan roedd trosiant ein siopau llyfrau i lawr o ddeg y cant.  Er gwaethaf hynny oherwydd gweithredu canolog a mentr a gwaith rheolwyr siopau yn lleol gwelwyd gostwng y golled dros ei hanner. Mae hefyd yn galonogol bod cyfradd elw wedi codi tua pump y cant. Mae ein gweledigaeth ar gyfer siopau’r Mudiad yn cynnwys sicrhau ein bod yn gwella fel busnesau, yn rhoi gwell gweinidogaeth i Gristnogion yn lleol a gwell cyfle i genhadu.

Stuart Olyott, Cyfarwyddwr Bugeiliol

Mae Stuart Olyott yn gweinidogaethu i weinidogion ac eglwysi ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Bu’n annog a chefnogi cyfarfodydd gweinidogion ar draws Cymru. Cynorthwyodd i gychwyn nifer o fentrau. Ambell waith trefnir y rhain gan y Mudiad ei hunan, tra bod eraill mewn cydweithrediad ag eglwysi a sefydliadau Cristnogol eraill. Maent yn cynnwys cyfresi bore Sadwrn o astudio diwinyddiaeth a dulliau newydd o gefnogi cyfarfodydd gweinidogion. Un prif agwedd ar ei waith yw cynorthwyo gweinidogion ac eglwysi mewn cyfnodau o anhawster a her. Mae sawl person ac ac eglwys yn gwerthfawrogi ei gefnogaeth gariadus a chyfrinachol.

Gwasg Bryntirion

Un o’r nifer o’n cyhoeddiadau Saesneg a gafodd dderbyniad da eleni oedd Preaching Pure and Simple  gan Stuart Olyott. Mae’r dewis gofalus o ran beth sy’n cael ei gyhoeddi yn golygu bod y gwella yn parhau yn nhaflen ariannol y Wasg. Yn ystod y flwyddyn cymerodd Huw Kinsey’r  cyfrifoldeb o ofaulu am Wasg Bryntirion a’r Cylchgrawn Saesneg. Rydym yn awyddus iawn i gael rhywun tebyg i Huw i weithio ar yr ochr Gymraeg – ond er ceisio ni ddaeth neb i ateb yr alwad hyd yn hyn. O safbwynt cyhoeddiadau Cymraeg yn gyffredinol mae’r Cylchgrawn yn parhau i werthu yn dda. Mae’r tim golygyddol a dylunio yn cynhyrchu cylchgrawn derbyniol iawn ar gyfer cynulleidfa eang. Yn ogystal cafodd Nansi Dolwar, llyfr ardderchog Ann Gruffydd Rhys yn adrodd hanes bywyd Ann Griffiths, groeso cynnes a gwerthiant ardderchog. Mae Gwyn Davies yn parhau i arwain y gwaith ar gyfer cyhoeddi’r Beibl Canllaw Cymraeg. Mae’r fath fenter yn gofyn am ynni a dyfalbarhad ganddo ef – a’i deulu – a’r rhai sy’n cynorthwyo.

Bryn-y-groes

Er gwaethaf y gwaith o adnewyddu gwifrau trydan bu dros 1,500 o bobl yn aros ym Mryn-y-groes. O dan arweiniad Dave Wilmot, rheolwr y ganolfan, aethpwyd ati i gynllunio ar gyfer adeilad newydd yn lle’r hen ystafell dennis bwrdd. Mae’r gwaith o roi to newydd ar yr adeilad cyfan wedi ei gwblhau. Mae’r Gronfa Apêl yn dal i dderbyn rhoddion. Erbyn diwedd y flwyddyn tyfodd y gronfa i dros £160,000. Mae Bryn-y-groes yn araf newid i fod yn ganolfan gynadledda amlbwrpas, a Dave a Pat Wilmot yn gwneud eu gorau glas i wella’r cyfleusterau. Tasg y gaeaf oedd ailwampio ac adnewyddu un o’r prif leoliadau gwasanaethu ger y gegin. Mae Bryn-y-groes yn dod yn fwy a mwy poblogaidd. Tra ei fod yn darparu ar gyfer Cristnogion o bob oed, daeth yn boblogaidd ar gyfer gwyliau byr canol wythnos. Nododd Dave Wilmot bod rhai pobl hÅ·n wedi dod i adnabod yr Arglwydd.

Cynadleddau

Unwaith eto bu Cynadleddau Cymraeg a Saesneg y Mudiad o fudd ysbrydol i lawer. Gwyn Davies (yn y Gymraeg) a Stuart Olyott (yn Saesneg) oedd y prif siaradwyr. Am y tro cyntaf ers nifer mawr o flynyddoedd, y swyddfa ym Mryntirion oedd yn gyfrifol am yr holl waith gweinyddol o drefnu’r Gynhadledd Saesneg. Trefnodd Mark Barnes a thîm o wirfoddolwyr ymroddgar raglen arbennig ar gyfer yr ieuenctid. Mae’r raglen hon yn tyfu mewn nerth o flwyddyn i flwyddyn. Mae cynadleddau’r gweinidogion yn Gymraeg a Saesneg yn parhau gyda’u gwaith pwysig.

Gwaith y Gwersylloedd

Bendithiodd yr Arglwydd waith y gwersylloedd eleni eto. Gweithredwyd gydag ynni, ymroddiad ac yn weddigar gan arweinwyr newydd a phrofiadol ynghyd â chaplaniaid, arweinwyr y merched, a chogyddion. Am y tro cyntaf  cafwyd llythyr newyddion electronig cyson yn ystod yr haf. Fe’i hanfonwyd i bron 1,000 o gefnogwyr ar draws y byd. O ganlyniad gofynnodd un gweinidog o Dde Korea i ni drefnu gwersyll yn ei wlad ef! Roedd dros 600 o bobl yn ymwneud â’r gwersylloedd. Cynhyrchwyd llyfr canllaw newydd ar gyfer arweinwyr y gwersylloedd. Bu’n adnodd defnyddiol a phwysig. Cynhyrchodd David Roberts DVD ar gyfer hysbysebu’r gwersylloedd.

Cyllid

Mae rhoddion pobl Dduw i’r gwaith wedi cynyddu eleni. Mae’r Mudiad yn ddiolchgar dros ben i bawb sy’n cefnogi’r gwaith yn y ffordd hon. Rydym yn gweithio’n galed i fod yn well stiwardiaid o’r cyfan y mae’r Arglwydd yn ei ddarparu ar ein cyfer. Mae’r prif ffigyrau o Ionawr 2005 i Ionawr 2006 fel a ganlyn:

  • Rhoddion cyffredinol yn uwch;
  • Cynnydd mewn costau; yn cynnwys tal dileu swyddi;
  • Lleihad arwyddocaol yn y golled weithredol o tua £70,000;
  • Lleihau colled y siopau llyfrau i £22,400;

Fodd bynnag, yr arian o roddion a chymynroddion sy’n galluogi’r elusen i ddatblygu ac ehangu. Anogwn ein ffrindiau, os yn bosibl, i gwblhau ffurflen Rhodd Cymorth. Os yw’n cefnogwyr yn talu treth incwm, gallwn gael ad-daliad o 28c am bob £1 a roddir, heb unrhyw gost ychwanegol i’r un sy’n rhoi.

Gwasanaethwn Gristnogion yng Nghymru a thu hwnt i Gymru. Mae’r Mudiad yn adnewyddu ei weledigaeth. Awn ymlaen gan ganolbwyntio ar efengyl ogoneddus ein Harglwydd Iesu Grist. Gweithiwn ar hyd a lled Cymru gyda rhai o bob oed. Mae llawer angen ei wneud yn y gwaith mawr hwn. Mae yna dân yng nghalon pobl Dduw dros yr efengyl. Mae awydd mawr i ledaenu’r efengyl a’i thân. Erfyniwn ar i’r Arglwydd ein galluogi i ledaenu’r fflamau ar hyd a lled Cymru a thros y byd.